I. L. Peretz
Bardd, dramodydd, ac awdur straeon byrion Iddewig o Wlad Pwyl yn yr iaith Iddew-Almaeneg oedd Isaac Leib Peretz (Yitskhak Leybush Perets; 18 Mai 1852 – 3 Ebrill 1915) sydd yn nodedig am ei lên ddifyr a dychanol yn ogystal â'i gyfraniadau at ysgolheictod gwyddonol yn yr iaith.
I. L. Peretz | |
---|---|
Ganwyd | 18 Mai 1852 (yn y Calendr Iwliaidd) Zamość |
Bu farw | 3 Ebrill 1915 Warsaw |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia, Gwlad Pwyl |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd-gyfreithiwr, awdur ffeithiol, dramodydd, cyfreithiwr, bardd, awdur storiau byrion |
Arddull | stori fer, barddoniaeth, traethawd, drama |
Ganed yn Zamość yn ne-ddwyrain Gwlad Pwyl, a oedd ar y pryd yn rhan o Ymerodraeth Rwsia. Cychwynnodd ar ei yrfa lenyddol yn ysgrifennu yn yr iaith Hebraeg, ond ymhen fawr o dro trodd at yr Iddew-Almaeneg fel ei brif gyfrwng. Mae ei ffuglen yn ymwneud gan amlaf â bywyd y shtetl a phrofiadau'r Iddewon tlawd yn Nwyrain Ewrop. Ceisiai Peretz annog ei gyd-Iddewon i gyfoethogi eu diwylliant seciwlar a'u byd materol cymaint â'u crefydd a'u hurddas ysbrydol. Dylanwadwyd arno gan y mudiadau neo-Ramantaidd a Symbolaidd yn llên Gwlad Pwyl. Cesglir ei straeon byrion yn y cyfrolay Bakante bilder (1890), Khasidish (1907), a Folkstimlekhe geshikhtn (1908). Un o'i ddramâu amlycaf, sydd yn ymwneud â themâu hanes a diwylliant Iddewig, yw Die goldene keyt (1909). Peretz oedd golygydd y cyfnodolyn Di yudishe bibliotek (1891–95), a chyfrannodd sawl erthygl ar bynciau ffiseg, cemeg, economeg, ac ati. Cyhoeddodd hefyd y gyfrol ffeithiol Bilder fun a provints-rayze (1891) am fywyd yng nghefn gwlad Pwyl, a'r hunangofiant Mayne zikhroynes (1913–14).[1]
Teithiodd llenorion Iddewig ifainc, gan gynnwys Sholem Asch a Jacob Glatstein, i dŷ Peretz yn Warsaw. Yn niwedd ei oes, Peretz oedd un o brif arweinwyr y mudiad Iddew-Almaenaidd, gyda Mendele Mocher Sforim a Sholem Aleichem, a ddadleuodd dros hyrwyddo hunaniaeth Iddewig drwy ddiwylliant Iddew-Almaeneg yn hytrach na sefydlu gwladwriaeth Seionaidd. Gwasanaethodd Peretz yn ddirprwy gadeirydd yng Nghynhadledd Czernowitz (1908) i hyrwyddo'r iaith Iddew-Almaeneg a'i diwylliant. Bu farw yn Warsaw yn 62 oed.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) I.L. Peretz. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Tachwedd 2020.