Sefydlwyd IMMAGINE&POESIA ("Delwedd a Barddoniaeth"), sy'n fudiad celf a llenyddiaeth ryngwladol, yn Alfa Teatro, Torino, yr Eidal yn 2007, gyda nawdd Aeronwy Thomas, merch y bardd Dylan Thomas. [1] Aeronwy Thomas (bardd a llenor), Gianpiero Actis (arlunydd), Silvana Gatti (arlunydd), Sandrina Piras (bardd), a Lidia Chiarelli oedd yr Aelodau Siartr, prif symbylydd ideolegol, a threfnydd y mudiad. Daeth y bardd Americanaidd Lawrence Ferlinghetti yn aelod o Bwyllgor ar Anrhydedd IMMAGINE&POESIA yn 2009. Aelod arall uchel ei barch yw'r bardd Beverly Matherne, sy'n athro prifysgol ym Mhrifysgol Gogledd Michigan.

IMMAGINE&POESIA
Enghraifft o'r canlynolmudiad gwirfoddol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2007 Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolmudiad gwirfoddol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Delwedd IMMAGINE&POESIA

Maniffesto

golygu

Mae maniffesto'r mudiad ar gael wedi'i gyfieithu i 28 iaith. [2] Mae'n cynnwys deg pwynt. Mae'r pedwerydd ohonynt yn awgrymu cael "cyfnodau o groes-ffrwythloni" i artistiaid a beirdd er mwyn cefnogi'r ddamcaniaeth y gall testun llenyddol ysbrydoli gwaith celf a gwaith celf yr un fath yn achos creu testun llenyddol: yn ôl y maniffesto mae hyn yn arwain at ffurf gelfyddydol newydd a chyflawn.[3]

Arddangosfeydd

golygu

Ers 2007, mae'r mudiad yn trefnu darlleniadau barddoniaeth ac arddangosfeydd sy'n cyfuno delweddau a geiriau. Y pwysicaf o'r rhain hyd yn hyn yw:

Llyfryddiaeth

golygu
  • Lidia Chiarelli Immagine & Poesia - The Movement in progress, Cross-Cultural Communications, Merrick, New York, 2013 ISBN 978-0-89304-994-2
  • Aeronwy Thomas a Gianpiero Actis, I Colori delle Parole: percorsi tra arte e poesia, Arti Grafiche Zuccarello, Sant'Agata Militello (ME), 2007
  • Dylan Thomas Festival Exhibitions, yn Rhaglen Canolfan Dylan Thomas, Abertawe, Medi - Rhagfyr 2007
  • In contatto con Lawrence Ferlinghetti, yn Arte Città Amica News, Torino, 6ed flwyddyn, rhif 1, Ionawr 2010
  • Omaggio alla poesia di Lawrence Ferlinghetti, inserto "TO.7", "La Stampa", 3 Medi 2010
  • The Seventh Quarry Issue 13, Winter 2011, Swansea Poetry Magazine, Chwefror 2011, 70

Cyfeiriadau

golygu
  1. Lidia Chiarelli Immagine & Poesia - The Movement in progress, Cross-Cultural Communications, Merrick, New York, 2013 ISBN 978-0-89304-994-2
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-23. Cyrchwyd 2011-10-25.
  3. Maniffesto
  4. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-11-18. Cyrchwyd 2011-10-20.
  5. http://imagespoetry.wordpress.com/2010/09/01/times-square-lights-fine-art-photo-by-alessandro-actis-italy-times-square-poem-by-lidia-chiarelli-italy

Dolenni allanol

golygu