Lawrence Ferlinghetti

Bardd Americanaidd yn yr iaith Saesneg oedd Lawrence Monsanto Ferlinghetti (24 Mawrth 191922 Chwefror 2021) a oedd yn un o sefydlwyr cenhedlaeth y Bitniciaid yn San Francisco yn y 1950au.[1]

Lawrence Ferlinghetti
Lawrence Ferlinghetti yn siop lyfrau Grolier yn Cambridge, Massachusetts, ym 1965.
GanwydLawrence Monsanto Ferling Edit this on Wikidata
24 Mawrth 1919 Edit this on Wikidata
Yonkers Edit this on Wikidata
Bu farw22 Chwefror 2021 Edit this on Wikidata
o clefyd interstitaidd yr ysgyfaint Edit this on Wikidata
San Francisco Edit this on Wikidata
Man preswylSan Francisco, Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethswyddog milwrol, bardd, cyfieithydd, cyhoeddwr, arlunydd, newyddiadurwr, ymgyrchydd heddwch, ysgrifennwr, activist shareholder, dramodydd, llyfrwerthwr, gweithredydd gwleidyddol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • The Daily Tar Heel Edit this on Wikidata
MudiadCenhedlaeth y Bitniciaid Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Farddoniaeth Ryngwladol Janus Pannonius, Literarian Award for Outstanding Service to the American Literary Community, James Madison Freedom of Information Award, Eagle Scout, Medal Robert Frost, Gwobr Cyflawniad Oes Ivan Sandrof, Commandeur des Arts et des Lettres‎ Edit this on Wikidata

Ganed yn Yonkers yn nhalaith Efrog Newydd, a chafodd ei fagu yn Ffrainc a Long Island. Gwasanaethodd yn swyddog yn Llynges yr Unol Daleithiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Derbyniodd ei radd baglor o Brifysgol Gogledd Carolina, ei radd meistr o Brifysgol Columbia, a'i ddoethuriaeth o'r Sorbonne ym 1951.

Ymsefydlodd Ferlinghetti yn San Francisco, Califfornia, ym 1951, ac ym 1953 agorodd ei siop lyfrau, City Lights, a fyddai'n ganolfan i gylch avant-garde y ddinas. Dan enw'r wasg City Lights Books, cyhoeddodd nifer o awduron cenhedlaeth y Bitniciaid, gan gynnwys Allen Ginsberg, Jack Kerouac, Gregory Corso, Denise Levertov, William Burroughs, a William Carlos Williams.

Cyhoeddodd ei nofel hunangofiannol, Little Boy (2019), adeg ei ganmlwyddiant. Bu farw yn San Francisco yn 101 oed.

Llyfryddiaeth golygu

  • Pictures of the Gone World (1955).
  • A Coney Island of the Mind (1958).
  • Endless Life (1981).
  • Love in the Days of Rage (1988).
  • These Are My Rivers (1995).
  • A Far Rockaway of the Heart (1997).
  • What Is Poetry? (1999).
  • How to Paint Sunlight (2001).
  • Americus: Part I (2004).
  • Poetry as Insurgent Art (2007).
  • Time of Useful Consciousness (2012).
  • Writing Across the Landscape: Travel Journals 1960–2010 (2015).
  • I Greet You at the Beginning of a Great Career: The Selected Correspondence of Lawrence Ferlinghetti and Allen Ginsberg, 1955–1997 (2015).
  • Little Boy (2019).

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Lawrence Ferlinghetti. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Mawrth 2021.