Iddewiaeth yng Nghymru

Mae hanes Iddewon ac Iddewiaeth yng Nghymru yn cychwyn yn ail hanner y 13g. Ond yn 1290 cyhoeddodd Edward I, brenin Lloegr, ddatganiad yn gorfodi'r Iddewon i adael teyrnas Lloegr. Wedi hynny, ac eithrio un cyfeiriad o'r 14g, mae'n ymddangos na fu Iddewon yng Nghymru hyd at y 18g. Dim ond yn y 19g y gellir sôn am gymunedau sylweddol o Iddewon yng Nghymru. Erbyn heddiw ceir cymunedau neu synagogau mewn 27 o drefi, gyda'r mwyafrif ohonynt yn y de-ddwyrain.

Cymunedau cynnarGolygu

Ceir cofnodion am Iddewon yng Nghaerllion, Cas-gwent a'r Fenni yn y 1270au a'r 1280au. Er i Edward I wahardd Iddewon o Loegr yn 1290, ceir cyfeiriad eithriadol at Iddew dienw yn byw yng nghwmwd Maenor Deilo yn 1386/7.[1]

Wedi hynny, ceir y dystiolaeth gynharaf am Iddewiaeth mewn cofnod am gymuned Iddewig fechan yn Abertawe tua 1730. Yn y ganrif olynol ffurfiwyd cymunedau Iddewig mewn rhannau eraill o dde Cymru, e.e. Caerdydd, Merthyr Tudful, Pontypridd a Tredegar."[2]

Cyfnod diweddarGolygu

 
Hen synagog Caerdydd

Gyda thwf cyffredinol mewnfudo Iddewon i wledydd Prydain yn y 19g, sefydlwyd cymunedau Iddewig mewn sawl rhan o Gymru. Atgyfnerthwyd cymunedau oedd yn bodoli eisoes a sefydlwyd rhai newydd yn yr ardaloedd diwydiannol yn bennaf. Roedd hyn yn rhan o batrwm o bobl yn dod i mewn i Gymru o wledydd fel Iwerddon, Lloegr a'r Eidal i weithio. Erbyn diwedd y ganrif roedd cymunedau bychain o Iddewon, masnachwyr a pherchnogion siopau gan amlaf, i'w cael yn y rhan fwyaf o gymoedd y De.[3]

Erlid Iddewon TredegarGolygu

Fel rheol, dangoswyd lefel cymeradwy o oddefgarwch tuag at y cymunedau Iddewig newydd hynny. Ond ceir un eithriad. Yn ardal Tredegar a threfi eraill yn y cylch, dangosodd gwrth-Semitiaeth ei ben ar 19 Awst 1911, pan ymosodwyd ar siopau Iddewig gan dyrfaoedd o weithwyr (tua 200 ohonyn nhw), rhai ohonynt yn canu emynau Cristnogol, gan wneud rhwng £12,000 a £16,000 o ddifrod. Torrwyd ffenestri siopai Iddewig a dwyn ohonyn nhw, gyda'r heddlu'n sefyll yn ôl yn ddiymadferth. Dyddiau'n ddiweddarach roedd y trais wedi ymledu i Gwm Rhymni a Glyn Ebwy, Brynmawr, Bargoed a Senghennydd. Nid oedd sôn am Iddewon yn y Cymoedd wedi hyn.[4][5]

HeddiwGolygu

Erbyn heddiw ceir cymunedau neu gynulleidfaoedd Iddewig yn Abertawe, Caerdydd, Llandudno, a'r Trallwng.[6] Roedd cymunedau Iddewig yn Aberdâr, Abertyleri, Bae Colwyn, Bangor, Bargoed, Brynmawr, Castell-nedd, Glyn Ebwy, Llanelli, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Penrhiwcaibr, Pont-y-pŵl, Pontypridd, Porthcawl, Port Talbot, Rhydaman, Tonypandy, Trecelyn, Tredegar, Wrecsam, Y Barri, Y Rhyl, ac Ystalyfera, ond nid ydynt yn weithredol erbyn hyn (oherwydd caefa, dymchwel ayyb).[6] Gwelir mai dim ond un gymuned sydd i'w cael rhwng arfordir y gogledd a de-ddwyrain Cymru. Un o'r prif synagogau yw Synagog Unedig Caerdydd.

Iddewon CymreigGolygu

Pobl o Gymru sy'n Iddewon neu o dras Iddewig:

CyfeiriadauGolygu

  1. Patricia Skinner (2003). The Jews in Medieval Britain: Historical, Literary, and Archaeological Perspectives. Boydell Press. t. 39. ISBN 978-0-85115-931-7.
  2. BBC Cymru: "Multicultural Wales"
  3. Todd M. Endelmann, The Jews of Britain, 1656-2000 (University of California Press, 2002), t.130
  4. Endelmann, The Jews of Britain, t.162.
  5. Hafina Clwyd, Rhywbeth Bob Dydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2008), t.110
  6. 6.0 6.1 [1] Rhestr ar jewishgen.org.
  7. BBC Wales

Darllen pellachGolygu

  • Davies, Grahame (ed.). The Chosen People: Wales and the Jews (Seren, 2002) ISBN 978-1854113092
  • 'The Jewish Communities of South Wales', yn Shemot 1994 vol. 2/3
  • U. Q. Henriques, 'The Jews of South Wales' yn Historical Studies (1993)
  • G. Alderman, 'The Jew as Scapegoat? The Settlement and Reception of Jews in South Wales before 1914', yn Transactions JHSE XXVI, 1977.
  • C. Bermant, Troubled Eden - An Anatomy of British Jewry (Vallentine Mitchell, Llundain, 1969), tt. 59-61.
  • Association of Jewish Ex-Servicemen & Women (AJEX) consecration and unveiling of War Memorial 1939-1945 at Cathedral Road Synagogue (JGSGB)
  • 'The Jewish of Merthyr Tydfil', Shemot, Medi 1998, cyf. 6/3
  • 'A vanished Community - Merthyr Tydfil 1830-1998', Shemot 2001 cyf. 9/3
  • Leonard Mars, 'Celebrating diverse identities, person, work and place in South Wales', yn Identity and Affect: Experiences in a Globalising World, Campbell, J.R. a Rew, A., 1999, tt. 251-274 (Hanes meddyg o Iddew yn Abertawe)
  • Leonard Mars, 'Cooperation and Conflict between Veteran and Immigrant Jews in Swansea', yn Religion and Power Decline and Growth: Sociological analyses of religion in Britain, Poland and the Americas, 1991, gan Peter Gee a John Fulton, tt. 115-130
  • James, E. Wyn, ‘ “A’r Byd i Gyd yn Bapur . . .’ Rhan 3: Dylanwadau Rhyngwladol – Sansgrit a Hebraeg’, Canu Gwerin, 27 (2004), 34-47 ISSN 0967-0599.

Dolenni allanolGolygu

Gweler hefydGolygu