Idris ap Gwyddno

Brenin Cantref Meirionnydd

Brenin Cantref Meirionnydd oedd Idris ap Gwyddno, a fu farw yn ôl y blwyddnodion Cymreig yn y flwyddyn 636 mewn brwydr yn erbyn y Sacsoniaid ar lannau'r Afon Hafren, ac a oedd, yn ôl blwyddnodion Ulster yn herio pendefigaeth Gwynedd dros Feirion a Mawddwy. Roedd gan Idris ap Gwyddno Bryngaer neu Kadr (lle cadarn) ar lethrau Cader Idris, ac roedd yn arbenigwr ar seryddiaeth. Mae'n debyg gan hynny mae'r gŵr mawr hwn yn eistedd yn ei Gadr ac yn cyffwrdd y sêr oedd sylfaen mytholeg Idris y Cawr a'i gadair ger Dolgellau.[1]

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Smith, J B a Smith, Ll B; T4 History of Merioneth Volume II Gwasg Prifysgol Cymru 2001 ISBN0-7083-1709-X