Swlŵeg
Mae Swlŵeg (isiZulu yn Swlŵeg) yn iaith a siaredir yn Affrica Ddeheuol (yn arbennig yn Ne Affrica, ond hefyd yn Gwlad Swasi a Mosambic, yn bennaf gan grŵp ethnig y Swlŵiaid). Mae'n perthyn i deulu ieithyddol yr ieithoedd Niger-Congo ac is-deulu’r ieithoedd Bantŵ.
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | iaith, iaith fyw ![]() |
Math | Nguni, Zunda ![]() |
Enw brodorol | isiZulu ![]() |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | zu ![]() |
cod ISO 639-2 | zul ![]() |
cod ISO 639-3 | zul ![]() |
Gwladwriaeth | Lesotho, Mosambic, De Affrica ![]() |
Rhanbarth | KwaZulu-Natal, Gauteng, Mpumalanga ![]() |
System ysgrifennu | yr wyddor Ladin ![]() |
Corff rheoleiddio | Pan South African Language Board ![]() |
![]() |
Mae tri phrif fath o gytsain glec yn Swlŵeg sy'n cyfateb yn fras i q ynganiad: [/ǃ/], c ynganiad: [/ǀ/] a x ynganiad: [/ǂ/]. Un o ieithoedd swyddogol De Affrica ydy hi. Deellir Swlŵeg gan siaradwyr Xhosa a Swati hefyd, oherwydd i'r ieithoedd hynny berthyn i grwp Nguni yr ieithoedd Bantŵ. Tua 10 miliwn o bobl sydd yn medru Swlŵeg yn Ne Affrica.
Creoliaith GautengGolygu
Ceir tafodiaith neu greoliaith sy'n seiliedig ar ramadeg Swlŵeg yn maestrefi talaith Gauteng ac yn enwedig Soweto. Ei enw yw isiCamtho. Cyfeirir ato hefyd, weithiau, gan y term sydd wedi dod yn generic i ddatblygiadau tafodiaith o'r fath fel Tsotsitaal.