Langue d'oïl

(Ailgyfeiriad o Ieithoedd d'oïl)

Yn hanesyddol, defyddir y termau langue d'oïl, langues d'oïl, ac oïl (ynganiad: [ɔ.il], [u.il], [wi], [ɔj]1), ar gyfer yr iaith Romáwns a ddatblygodd yn rhan ogleddol Gâl, ac yna rhan ogleddol Ffrainc, de Gwlad Belg ac ar yr Ynysoedd y Sianel yn yr oesoedd canol. Mae felly'n gysyniad tebyg, ond nid union yr un peth, â'r Hen Ffrangeg, oedd yn cwmpasu'r gwahanol dafodieithoedd oïl. Gydag ymddangosiad un ffurf ieithyddol wedi'i safoni ar ddechrau'r cyfnod modern (sef y Ffrangeg), daeth y term lluosog yn amherthnasol wrth sôn am Ffrangeg ganol, a gwahaniaethwyd rhang y Ffrangeg ar y naill law a'r ieithoedd oïl eraill ar y llall. Ystyrir y tafodieithoedd, neu ieithoedd, oïl, yn grŵp o fewn yr ieithoedd Gallo-Romáwns. Mae'r grŵp gogleddol hwn yn cynnwys swbstrad celtaidd sylweddol, yn ogystal â dylanwad gan yr ieithoedd Germanaidd sy'n un o'r gwahaniaethoedd rhwng y langues d'oïl a'r Ocsitaneg.

Langues d'oïl
Dosraniad
daearyddol:
Gogledd a chanolbarth Ffrainc, De Gwlad Belg a rhan fach o'r Swistir
Dosraniad Ieithyddol: Indo-Ewropeaidd
 Langues d'oïl
Israniadau:
gweler isod

Map sy'n dangos dosraniad y (tafod)ieithoedd Oïl heblaw'r Ffrangeg.

Terminoleg

golygu

Mae'n ymddangos y defnyddir y term langue d’oïl ers diwedd y 18fed ganrif. Mae'n deillio o'r ffordd o ddweud "ie" mewn gwahanol ieithoedd ar y pryd (o'r gair oïl daeth y Ffrangeg gyfoes oui). Ceir y defnydd yma yng ngwaith Dante,[1] oedd yn gwahaniaethu rhwng dau grŵp o ieithoedd ac yn adnabod undod o fewn y naill grŵp a'r llall:

Defnyddir y term lluosog langues d'oïl gan Gymdeithas Cynnal a Hyrwyddo'r Langues d'Oïl ers ei chreu ym 1982.[2].

Cyfeiriadau

golygu
  1. YnVita nuova, oddeutu 1293, ar gyfer "oc" a "si"; yn De vulgari eloquentia, oddeutu 1305, yn fwy cyflawn.
  2. Abalain 2007, tud. 155.