Iestyn George
Newyddiadurwr o Gymro yw Iestyn Dyfed George (ganwyd Ionawr 1966) a fu'n gweithio fel golygydd newyddion ar gylchgronau NME a GQ a sydd nawr yn ddarlithiwr ym Mhrifysgol Brighton.
Iestyn George | |
---|---|
Ganwyd | 29 Ionawr 1966 Abertawe |
Man preswyl | Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr |
Cyflogwr |
|
Mam | Beti George |
Fe'i magwyd yn ardal Mayals, Abertawe ac aeth i Ysgol Gyfun Ystalyfera ac yna Prifysgol Westminster lle graddiodd gyda BA mewn Astudiaeth'r Cyfryngau.[1]
Gyrfa
golyguYn ystod y 1990au, roedd George yn ysgrifennu ar gyfer cylchgrawn y NME,[2] a daeth yn olygydd newyddion.[3] Roedd yn rheolwr marchnata ar gyfer y band Manic Street Preachers rhwng 1999 a 2003.[4] Erbyn 2001, roedd George hefyd yn olygydd cerddoriaeth ar gyfer cylchgrawn GQ,[5] , a daeth yn ddirprwy olygydd ar gylchgrawn Golf Punk.[6]
Symudodd i Gaerdydd yn 1999 a helpodd i lansio clwb cerddoriaeth Barfly yn y ddinas. Rhwng 2000 a 2003 cyflwynodd y rhaglen gerddoriaeth Y Sesiwn Hwyr ar S4C.[1]
Daeth yn olygydd cylchgrawn Rio yn 2009; daeth y syniad o greu'r cylchgrawn o chwaraewr Manchester United Rio Ferdinand, a weithredodd fel pen-olygydd.[7] Rhwng 2012 a 2014 bu'n ddarlithydd Newyddiaduraeth Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Southampton Solent.[8]
Bywyd personol
golyguMae Iestyn yn fab i'r ddarlledwraig Beti George.[9] Mae'n frawd-yng-nghyfraith i gyd-sylfaenydd cylchgronau Loaded a Golf Punk, Tim Southwell.[10]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 By George!; A Swansea Jack who came to love Cardiff, a music fanatic who `looked normal', a writer who `indirectly brought Posh and Becks together'. Many things define former GQ music editor Iestyn George, as Sarah Welsh discovered (en) , South Wales Echo, 7 Medi 2002. Cyrchwyd ar 29 Rhagfyr 2017.
- ↑ Moore, Sam (23 Mawrth 2016). "RIP Phife Dawg: A Look Back At A Tribe Called Quest's 'The Low End Theory'". NME (yn Saesneg). Cyrchwyd 16 April 2016.
- ↑ "Iestyn George" (yn Saesneg). Visit Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-01-20. Cyrchwyd 16 Ebrill 2016.
- ↑ Wood, Chris (18 Medi 2015). "Was 1999 the year that helped shape modern Wales?". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 16 Ebrill 2016.
- ↑ "Cardiff set to be recreation capital". BBC News (yn Saesneg). 27 Mehefin 2001. Cyrchwyd 16 Ebrill 2016.
- ↑ George, Iestyn (26 Mawrth 2005). "Golf gets to grips with a new generation". Financial Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 16 Ebrill 2016.
- ↑ Reynolds, John (15 Ionawr 2009). "Manchester United's Rio Ferdinand launches digital magazine" (yn Saesneg). MediaWeek. Cyrchwyd 16 Ebrill 2016.
- ↑ Reid, Alastair. "8 ways to make the most of your journalism course" (yn Saesneg). Journalism.co.uk. t. 29 Hydref 2014. Cyrchwyd 16 Ebrill 2016.
- ↑ Carolyn Hitt (17 Mawrth 2012). "Carolyn Hitt: "Merv the Swerve was a god in our house"" (yn Saesneg). Wales Online. Cyrchwyd 16 Ebrill 2016.
- ↑ "The Questionnaire: Tim Southwell" (yn Saesneg). Sports Journalists' Association. Cyrchwyd 16 Ebrill 2016.