Beti George

Newyddiadurwraig a darlledwr o Gymraes

Newyddiadurwraig a darlledwraig o Gymraes yw Beti George (ganwyd 19 Ionawr 1939). Mae'n cyflwyno'r rhaglen Beti a'i Phobol ar Radio Cymru ers 1987.

Beti George
Ganwyd19 Ionawr 1939 Edit this on Wikidata
Coed-y-bryn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PlantIestyn George Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Jane Elizabeth Jones[1] yng Nghoed-y-bryn ger Llandysul mewn cymuned bron yn uniaith Gymraeg. Roedd ei mam wedi bod yn forwyn ac roedd ei thad yn wehydd. Yn y tridegau nid oedd ei thad yn gallu dod o hyd i waith ac roedd rhaid iddo symud i Bendyrus a gweithio o dan ddaear. Yn ei hysgol gynradd, Beti oedd yr unig blentyn a basiodd yr arholiad yr Eleven-plus er mwyn mynd i Ysgol Ramadeg Llandysul. Hi oedd y gyntaf yn ei theulu i allu mynd i'r brifysgol ac fe aeth i astudio Cymraeg yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd. Aeth i ddysgu mewn ysgol gynradd yn Aberystwyth ac yna mewn ysgol ramadeg yn Aberhonddu am gyfnod.[2]

Gyrfa golygu

Yn y saithdegau cynnar, cychwynodd ei gyrfa yn y cyfryngau pan gafodd swydd gyda'r BBC yn Abertawe fel gohebydd ar ei liwt ei hun i'r rhaglen Bore Da. Yn yr wythdegau bu'n cyflwyno rhaglen Newyddion gyda Gwyn Llewelyn.[3]. Roedd hefyd yn un o brif gyflwynwyr y rhaglenni etholiadol yn yr wythdegau.

Bu'n cyflwyno nifer o raglenni eraill ar S4C gan gynnwys Ar y Bocs a Sbectrwm (rhaglenni yn trafod y cyfryngau), a nifer fawr o raglenni cerddorol yn cynnwys Lleisiau Cymru, Byd Cerdd, Cadwyn Carolau a Meistri Fienna.

Roedd yn un o gyflwynwyr cyfres DNA Cymru; darlledwyd rhaglen arbennig ar Ddydd Gŵyl Dewi 2015 a dangoswyd cyfres o bedair rhaglen ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2015.[4][5]

Mae hi'n cyflwyno rhaglen Beti a'i Phobol ar Radio Cymru ers 1987[6], lle mae Beti yn sgwrsio gyda gwestai gwahanol bob wythnos yn trafod hanes eu bywyd.

Anrhydeddau golygu

Daeth Beti'n aelod o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1986.

Yn 2016, derbyniodd y Wobr am Gyfraniad Eithriadol yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru. Ym mis Awst 2017, enillodd Wobr Geraint Stanley Jones am "ei chyfraniad i gyfathrebu cerddoriaeth trwy ddarlledu".[7]

Mae’n Gymrawd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Bangor a Phrifysgol De Cymru.

Ar ddiwedd 2020, fe'i henwebwyd ar gyfer MBE ond fe'i gwrthododd.[8] Ar 20 Gorffennaf 2022, derbyniodd radd er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe.[9]

Bywyd Personol golygu

Ei phartner hyd ei farwolaeth ym mis Ebrill 2017 oedd yr awdur a'r darlledwr David Parry-Jones; roeddent yn byw yng Nghaerdydd. Ers 2009, roedd Clefyd Alzheimer wedi bod ar David, a bu Beti yn codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr yn y cyfryngau. Darlledwyd rhaglen am y clefyd o'r enw Un o Bob Tri ar S4C [10] ac fe gyflwynodd Beti raglen The Dreaded Disease – David's Story ar Radio Wales.[11] Cyflwynodd hefyd y rhaglen ddogfen Beti and David: Lost for Words a ddarlledwyd ar y BBC ledled gwledydd Prydain.

Mae ganddi fab, Iestyn George, sy'n byw yn Brighton, a fu'n newyddiadurwr ac yn olygydd cerddoriaeth ar gylchgronau yr NME a GQ.[12] Mae bellach yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Brighton.

Cyfeiriadau golygu

  1. (yn cy) Cysgu o Gwmpas: Pale Hall, 2024-04-08, https://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/p0hlnxpl/cysgu-o-gwmpas-cysgu-o-gwmpas-pale-hall, adalwyd 2024-04-11
  2. Beti George at 80: 'She's still at the peak of her journalistic powers' , WalesOnline, 20 Ionawr 2019.
  3.  BBC (11 Rhagfyr 2013). Beti George. BBC. Adalwyd ar 11 Rhagfyr 2013.
  4. Datgelu canlyniadau DNA hynafiadol Angharad Mair yn fyw ar Heno
  5. Cymru DNA Wales – Y Prosiect; Adalwyd 2015-11-29
  6.  Sarah Hill (11 Rhagfyr 2013). Desert Island Discs, Beti a'i Phobol, and Britishness. BBC. Adalwyd ar 11 Rhagfyr 2013.
  7. CLIP SAIN: Beti George yn derbyn Gwobr Geraint Stanley Jones , Golwg360, 5 Awst 2017.
  8. Beti George: 'Dyw byw eich hun yn ystod pandemig ddim yn sbort' , BBC Cymru Fyw, 21 Ionawr 2021.
  9.  Dyfarniadau Anrhydeddus - Beti George. Prifysgol Abertawe (20 Gorffennaf 2022).
  10.  S4C (11 Rhagfyr 2013). Un o Bob Tri - Beti George. S4C. Adalwyd ar 11 Rhagfyr 2013.
  11.  BBC (11 Rhagfyr 2013). The Dreaded Disease - David's Story. BBC. Adalwyd ar 11 Rhagfyr 2013.
  12. Many things define former GQ music editor Iestyn George, as Sarah Welsh discovered

Dolenni allanol golygu