Iestyn ap Gwrgant

brenin olaf Morgannwg
(Ailgyfeiriad o Iestyn ab Gwrgant)

Iestyn ap Gwrgant (1045-1093) oedd brenin olaf Morgannwg. Roedd yn fab i Gwrgant o Forgannwg. Roedd yn un o ddisgynyddion Arglwyddi Afan.

Iestyn ap Gwrgant
Ganwyd1045 Edit this on Wikidata
Teyrnas Glywysing Edit this on Wikidata
Bu farw1093 Edit this on Wikidata
Rhiwbeina Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbrenin neu frenhines Edit this on Wikidata
Blodeuodd1081 Edit this on Wikidata
TadGwrgant ab Ithel Edit this on Wikidata
MamNn ferch Cynfyn ap Gwerystan ap Gwaithfoed Edit this on Wikidata
PlantCaradog ab Iestyn, Nest ferch Iestyn ap Gwrgan ab Ithel, Catrin ferch Iestyn ap Gwrgan, Madog ab Iestyn ap Gwrgan ab Ithel o Ruthion, Gruffudd ab Iestyn ap Gwrgan ab Ithel, Gwenllian ferch Iestyn ap Gwrgan ab Ithel, Rhydderch ab Iestyn ap Gwrgan, Rhys ab Estyn ap Gwrgan ab Ithel o Resolfen Edit this on Wikidata

Daeth Morgannwg o dan ei feddiant yn sgil marwolaeth Caradog ap Gruffudd ym Mrwydr Mynydd Carn yn 1081. Teyrnasodd am ddegawd neu ddau'n unig a chipwyd Morgannwg oddi wrtho gan Robert Fitz Hammo yn y 1090au pan syrthiodd Iestyn mewn brwydr yn erbyn y Normaniaid yn ardal Rhiwbeina (rhan o ddinas Caerdydd heddiw). Wedi'i farwolaeth daeth yr enw 'Iestyn' yn enw poblogaidd drwy Forgannwg a thu hwnt.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwyddoniadur Cymru. Gwasg Prifysgol Cymru. 2008.
   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.