Ffilm Japaneaidd o 1952 a gyfarwyddwyd gan Akira Kurosawa yw Ikiru (Japaneg: 生きる, "Byw"). Mae'r ffilm yn serennu Takashi Shimura fel Kanji Watanabe, gwas sifil o Tokyo sy'n ceisio darganfod ystyr i'w fywyd wedi iddo ddarganfod bod ganddo gancr y stumog. Cynhwysodd yr adolygydd Americanaidd Roger Ebert Ikiru yn ei gyfrol The Great Movies, a dywedodd, "credaf bod hon yn un o'r ychydig o ffilmiau a all ysbrydoli rhywun i fyw ei fywyd tipyn yn wahanol".[1]

Ikiru

Poster theatraidd
Cyfarwyddwr Akira Kurosawa
Cynhyrchydd Sojiro Motoki
Ysgrifennwr Shinobu Hashimoto
Akira Kurosawa
Hideo Oguni
Serennu Takashi Shimura
Dylunio
Dosbarthydd Toho
Amser rhedeg 143 munud
Gwlad Japan
Iaith Japaneg
(Saesneg) Proffil IMDb

Cast golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Roger Ebert (29 Medi, 1996). Ikiru. rogerebert.com. Adalwyd ar 18 Ionawr, 2009.