Ilse Hess
Awdur o'r Almaen oedd Ilse Hess (née Pröhl; 22 Mehefin 1900 - 7 Medi 1995). Fe'i hadnbyddir hefyd fel gwraig Rudolf Hess. Y sillafiad Almaeneg yw Ilse Heß.
Ilse Hess | |
---|---|
Ganwyd | Ilse Pröhl 22 Mehefin 1900 Hannover |
Bu farw | 7 Medi 1995 Lilienthal |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, gwleidydd |
Plaid Wleidyddol | Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol |
Priod | Rudolf Hess |
Plant | Wolf Rüdiger Hess |
Fe'i ganed yn Hannover ar 22 Mehefin 1900; bu farw yn Lilienthal ac fe'i claddwyd yn Wunsiedel. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Ludwig Maximilian, Munich. Roedd Wolf Rüdiger Hess yn blentyn iddi. Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol.[1][2][3][4]
Magwareth
golyguDaeth Ilse Pröhl o deulu ceidwadol, cenedlaetholgar. Roedd yn un o dair merch y meddyg cyfoethog Friedrich Pröhl a'i wraig Elsa (g. Meineke). Lladdwyd Friedrich yn yr ymgais i gipio awdurdod a elwir yn 'Kapp Putsch' (13 Mawrth 1920). Yna priododd ei mam yr arlunydd Carl Horn, cyfarwyddwr Amgueddfa Gelf Bremen (Kunsthalle Bremen).
Ei pherthynas gyda Hess
golyguCyfarfu Ilse â Rudolf Hess yn Ebrill 1920 ym Munich. Hi oedd un o'r merched cyntaf i astudio ym Mhrifysgol Munich. Ym 1921, ymunodd â'r Nationalsozialistische Deutsche Arbeiterpartei, neu'r NSDAP (sef Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol, neu'r 'Natsïaidd') am y tro cyntaf, ac eilwaith ar ôl gwahardd y mudiad yn 1925 (rhif aelod 25,071).[5][6]
Teimlai iddi gael ei thynnu at Rudolf Hess o'r dechrau, ond roedd Hess yn gyndyn o feithrin y berthynas. Cyflwynodd Ilse Hess i Adolf Hitler, a hoffai deithio yn y cylchoedd o ferched cyfoethog, llwyddiannus. Dywedir mai Hitler a ysgogodd y briodas, a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr 1927 ym Munich. Hitler hefyd oedd tad-bedydd ei hunig blentyn, Wolf Rüdiger Hess, a anwyd ar 18 Tachwedd 1937. Ar ôl taith Rudolf Hess i'r Alban, gadawodd Ilse Munich gyda'i mab Wolf Rüdiger i fyw yn Hindelang.[6]
Wedi'r rhyfel
golyguAr 3 Mehefin 1947, cafodd Ilse Hess, fel holl wragedd y troseddwyr rhyfel a gondemniwyd neu a ddienyddiwyd yn ystod Treialon Nuremberg, ei harestio a'i throsglwyddo i garchar yn Augsburg-Göggingen. Ar 24 Mawrth 1948 fe'i rhyddhawyd eto ac ymsefydlodd yn yr Allgäu, lle agorodd westy bychan yn 1955.[6]
Roedd Ilse Hess yn Sosialydd Cenedlaethol argyhoeddedig. Tan ei marwolaeth, parhaodd yn ffyddlon i Hitler a'i gredoau, a chefnogodd y Stille Hilfe ar ôl y rhyfel.
Cyhoeddwyd ei llyfr England – Nürnberg – Spandau. Ein Schicksal in Briefen (1952) gan y Druffel-Verlag, mudiad asgell-dde. Gohebodd gyda'i chyfaill Winifred Wagner, a barhaodd hefyd i edmygu Hitler.[6]
Anrhydeddau
golyguCyhoeddiadau
golygu- Ein Schicksal in Briefen. Leoni am Starnberger See: Druffel-Verlag, 1971.
- Antwort aus Zelle 7. Leoni am Starnberger See: Druffel-Verlag, 1967.
- England – Nürnberg – Spandau. Leoni am Starnberger See: Druffel-Verlag, 1967.
- Gefangener des Friedens – Neue Briefe aus Spandau. Leoni am Starnberger See: Druffel-Verlag, 1955.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Rhyw: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 15 Gorffennaf 2024.
- ↑ Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 24 Ebrill 2014
- ↑ Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 24 Ebrill 2014
- ↑ Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 11 Rhagfyr 2014
- ↑ Görtemaker, Heike B.; Searls, Damion (2012). Eva Braun Life With Hitler (arg. 1st American). New York: Vintage Books. t. 74. ISBN 9780307742605. Cyrchwyd 2 Ebrill 2017.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 6.3 Klee, Ernst (2009). Das Kulturlexikon zum Dritten Reich. Wer war was vor und nach 1945 [The Culture Lexicon to the Third Reich: Who was before and after 1945] (yn German). Frankfurt am Main: Fischer-Taschenbuch-Verlag. t. 239. ISBN 3596171539.CS1 maint: unrecognized language (link)