Rudolf Hess
Un o arweinyddion llywodraeth Natsïaidd yr Almaen oedd Rudolf Walter Richard Hess (26 Ebrill 1894 - 17 Awst 1987).
Rudolf Hess | |
---|---|
Ganwyd | Rudolf Walter Richard Heß 26 Ebrill 1894 Alexandria |
Bu farw | 17 Awst 1987 Spandau Prison, Berlin |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth yr Almaen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, hedfanwr, masnachwr |
Swydd | aelod o Reichstag Gweriniaeth Weimar, member of the Reichstag of Nazi Germany, Deputy Führer, Reichsminister |
Plaid Wleidyddol | Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol, Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol |
Tad | Fritz Hess |
Mam | Clara Münch |
Priod | Ilse Hess |
Plant | Wolf Rüdiger Hess |
Gwobr/au | Croes uchel Urdd Imperial yr Saethau Coch, Bathodyn y Parti Aur, Y Groes Haearn, Blood Order, NSDAP Long Service Award |
llofnod | |
Ganed Hess yn Alexandria, yr Aifft, i deulu Almaenig. Symudodd y teulu i'r Almaen yn 1908. Bu'n ymladd fel milwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf, yna, wedi iddo gael ei glwyfo, fel arwyrennwr. Wedi'r rhyfel, symudodd i München, lle cyfarfu ag Adolf Hitler. Daeth yn ddirprwy i Hitler yn y Blaid Natsïaidd.
Ar 10 Mai, 1941, hedfannodd Hess i'r Alban, gyda'r bwriad o geisio cynnal trafodaethau heddwch rhwng yr Almaen a'r Deyrnas Unedig. Roedd hyn heb awdurdod Hitler. Cymerwyd ef i'r ddalfa, a chadwyd ef am y rhan fwyaf o weddill cyfnod y rhyfel yn ysbyty filwrol Maindiff Court, Llandeilo Bertholau ger Y Fenni.
Ar ddiwedd y rhyfel, roedd Hess yn un o'r diffinyddion ym mhrif achos Treialon Nuremberg, er fod rhai arbenigwyr yn credu nad oedd ei iechyd meddyliol yn ddigon da i'w roi ar brawf. Cafwyd ef yn euog, a'i ddedfrydu i garchar am oes. Cadwyd ef yn Ngharchar Spandau hyd ei farwolaeth yn 1987. Y farn gyffredinol yw iddo ladd ei hun, ond cred rhai iddo gael ei lofruddio.