Adolf Hitler

gwleidydd (1889-1945)
(Ailgyfeiriad o Hitler)

Roedd Adolf Hitler (20 Ebrill 188930 Ebrill 1945) yn arweinydd Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol (Nationalsozialistische Deutsche Arbeiterpartei) yn yr Almaen (a adnabyddwyd fel y Blaid Natsïaidd) ac yn nes ymlaen daeth yn Ganghellor ac yna Führer yr Almaen gyfan (und Reichskanzler (arweinydd a changhellor) yr Almaen. Ef sefydlodd y Drydedd Reich (19331945).

Adolf Hitler
Ganwyd20 Ebrill 1889 Edit this on Wikidata
Adolf-Hitler-Geburtshaus, Braunau am Inn Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd22 Ebrill 1889 Edit this on Wikidata
Bu farw30 Ebrill 1945 Edit this on Wikidata
o anaf balistig Edit this on Wikidata
Führerbunker, Berlin Edit this on Wikidata
Man preswylBerghof, Führerbunker, Barackenkasernement Oberwiesenfeld, Hitler's Munich apartment, Wolf's Lair, Neue Reichskanzlei, Kransberg Castle Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Alma mater
  • Lambach Abbey
  • Staats-Realschule of Linz
  • Bundesrealgymnasium Linz Fadingerstraße Edit this on Wikidata
Galwedigaethmilwr, arlunydd, ysgrifennwr gwleidyddol, gwleidydd, cadlywydd milwrol, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
SwyddReich Chancellor, Reichsstatthalter, Arlwywydd yr Almaen, aelod o Reichstag Gweriniaeth Weimar, member of the Reichstag of Nazi Germany Edit this on Wikidata
Adnabyddus amMein Kampf Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadPaul Devrient, Georg Ritter von Schönerer, Karl Lueger, Karl Hermann Wolf, Leopold Poetsch, Dietrich Eckart, Max Erwin von Scheubner-Richter, Alfred Rosenberg, Houston Stewart Chamberlain, Richard Wagner Edit this on Wikidata
Taldra174 centimetr, 175 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau72 cilogram Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolGerman Workers' Party, Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol Edit this on Wikidata
TadAlois Hitler Edit this on Wikidata
MamKlara Pölzl Edit this on Wikidata
PriodEva Braun Edit this on Wikidata
PartnerMaria Reiter, Eva Braun, Geli Raubal Edit this on Wikidata
Gwobr/auIron Cross 2nd Class, Wound Badge, Honorary citizen of Sankt Andreasberg, honorary citizenship of Goslar, Collar of the Imperial Order of the Red Arrows, Bathodyn y Parti Aur, Honour Cross of the World War 1914/1918, Blood Order, honorary citizen of Trier, Time Person of the Year, Military Merit Order, honorary citizen of Coburg, dinasyddiaeth anrhydeddus, dinasyddiaeth anrhydeddus, Iron Cross 1st Class Edit this on Wikidata
Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
CBAC
Datblygu Rhyfela

Datblygiad yr Almaen, 1919–1991 Putsch Munich

HWB
Cytundeb Versailles
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Ei ymgais i greu Almaen Fwy (Großdeutschland) gan ddechrau drwy uno Awstria â'r Almaen, a goresgyniad Tsiecoslofacia a Gwlad Pwyl oedd wrth wraidd yr  Ail Ryfel Byd.

Roedd ganddo ef a'i blaid bolisi pendant o wrth-Semitiaeth a arweiniodd yn y pendraw at ymgais i ddileu'r Iddewon yn gyfan gwbl o Ewrop. Dyma oedd Yr Holocost.[1] O dan arweinyddiaeth Hitler roedd y Natsïaid yn gyfrifol am hil-laddiad tua 6 miliwn o Iddewon a miliynau o ddioddefwyr eraill.

Ar 30 Ebrill 1945 cyflawnodd hunanladdiad, gyda’i wraig, Eva Braun, drwy gymryd gwenwyn a saethu ei hun yn ei fyncer o dan y Canghellordy yn Berlin.

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Adolf Hitler 20 Ebrill 1889 yn nhref fach Braunau am Inn, yn Awstria. Roedd ei dad yn swyddog tollau o Awstria a phan oedd Hitler yn dair mlwydd oed symudodd i fyw i’r Almaen. Cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, methodd ei ymgais i hyfforddi fel artist a wynebodd dlodi a chaledi yn Fienna.

Rhyfel Byd Cyntaf  golygu

Newidiodd ei fywyd pan wasanaethodd ym myddin yr Almaen yn y Rhyfel Byd Cyntaf: enillodd fedalau am ddewrder (y Groes Haearn) a chafodd ei ddewis gan y fyddin ar ôl y rhyfel i gymryd rhan mewn uned bropaganda er mwyn atal comiwnyddiaeth rhag lledaenu yn y fyddin. Roedd y fyddin wedi cydnabod ei ddawn i argyhoeddi wrth siarad yn gyhoeddus. Fel llawer o gyn-filwyr, roedd cadoediad 1918 a thelerau Cytundeb Versailles wedi ei arswydo. Teimlodd atgas at y Cytundeb oherwydd credai bod yr Almaen wedi cael ei thrin yn gywilyddus ac wedi cael ei gorfodi i golli cymaint o’i phŵer milwrol a morwrol, colli tir, talu iawndal a derbyn y cyfrifoldeb am gychwyn y rhyfel. I ychwanegu at y gwarth roedd y cytundeb wedi bod yn diktat a orfodwyd ar yr Almaenwyr.[2][3]

Codi i rym golygu

Ymuno gyda phlaid newydd golygu

O ganlyniad i’w waith yn yr uned bropaganda, dechreuodd Hitler gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth adain dde. Yn 1919, roedd Anton Drexler wedi sefydlu Plaid Gweithwyr yr Almaen, sef plaid genedlaetholgar i’r dosbarthiadau gweithiol. Newidiwyd enw’r blaid yn nes ymlaen i’r Blaid Natsïaidd. Cyn hir, cymerodd Hitler reolaeth o’r blaid ei hun a daeth yn arweinydd y blaid yn lle Drexler yn 1921.

Roedd y blaid eisiau dymchwel Cytundeb Versailles ac uno’r holl bobl Almaeneg eu hiaith, yn enwedig y rhai mewn tiroedd a gollwyd gan y cytundeb, mewn Almaen fwy. Roedd y blaid yn hiliol ac yn wrth-Semitig, a hynny’n agored. O dan arweinyddiaeth Hitler, aeth y blaid yn fwy treisgar a bygythiol: cafodd uned baramilwrol, o’r enw’r SA, ei sefydlu i warchod cyfarfodydd y blaid ac i darfu ar gyfarfodydd pleidiau eraill, yn enwedig pleidiau adain chwith. Cafodd Hermann Goering, arwr ifanc o’r awyrlu, ei benodi’n arweinydd cyntaf yr SA neu’r ‘Crysau Brown’ fel y byddent yn cael eu galw. Roedd yr SA yn gwneud fel y mynnont, gan ymosod ar bawb a allai wrthwynebu’r Natsïaid . Cyn hir roeddent yn enwog am gieidd-dra ac ymddygiad bygythiol. Y swastica oedd arwyddlun y Natsïaid.

Putsch Munich golygu

Erbyn 1923, arweiniodd goresgyniad y Ruhr a’r gorchwyddiant at awyrgylch o argyfwng yn yr Almaen. Credai Hitler mai hon oedd yr adeg gywir i geisio cipio grym drwy lansio chwyldro yn Bafaria, yn y brifddinas yn München. Roedd Hitler yn gobeithio bod modd perswadio llywodraeth adain dde Bafaria i ymuno ag ef. Cafodd Hitler gefnogaeth gan y Cadfridog Ludendorff, un o arwyr yr Almaen yn y rhyfel, ac ar 8 Tachwedd 1923, syfrdanodd Hitler a’r SA gyfarfod o lywodraeth Bafaria drwy frasgamu i mewn i’r cyfarfod, tanio pistol i’r nenfwd a bwlio arweinwyr Bafaria i ymuno â’r hyn yr oedd Hitler yn ei alw’n ‘chwyldro cenedlaethol’. Collodd yr ymgais ar Putsch gefnogaeth yn gyflym yn München, a saethodd yr heddlu at orymdaith a arweiniwyd gan Hitler a Ludendorff: lladdwyd 16 o bobl.

Yn sgil eu rhan yn nhrefnu ac arwain y Putsch ym München cafodd Hitler a Ludendorff eu dwyn i brawf am frad. Roedd yr achos llys yn gyfle i Hitler ddod yn adnabyddus ledled yr Almaen drwy wneud areithiau hir a gafodd eu cyhoeddi mewn papurau newydd wedyn. Roedd yr achos llys yn llwyfan propaganda gwych i Hitler. Yn y diwedd, cafwyd Ludendorff yn ddieuog, er mawr anfodlonrwydd iddo, a chafodd Hitler ddedfryd gymharol ysgafn, sef pum mlynedd yn y carchar. Yng ngharchar Landsberg, defnyddiodd Hitler y cyfle i ysgrifennu ei hunangofiant Mein Kampf (Fy Mrwydr) a nododd ei brif syniadau. Oherwydd ei ymddygiad da yn y carchar, cafodd llywodraeth Bafaria ei pherswadio i’w ryddhau ar ôl naw mis yn unig. Bellach, roedd yn rhaid i Hitler ailystyried ei strategaeth i ennill grym; sylweddolodd ar ôl y profiad yn München na allai ddibynnu ar drais yn unig i wneud hyn. Sylweddolodd y byddai’n rhaid iddo ceisio ennill pŵer yn yr Almaen drwy ddulliau democrataidd, sef drwy ennill etholiadau. Trodd ei sylw felly tuag at ennill mwy o gefnogaeth i’r Blaid Natsïaidd ymhlith bobl yr Almaen ac yn yr etholiadau fyddai’n cael eu cynnal yn y blynyddoedd dilynol.[2][4]

Ganghellor yr Almaen golygu

Roedd rôl Hitler a’i syniadau yn ganolog i esgyniad i Natsïaid i bŵer ac yntau’n dod yn Ganghellor (Prif Weinidog) yr Almaen yn Ionawr 1933. Roedd wedi llwyddo i ennill cyhoeddusrwydd i’r Blaid Natsïaidd drwy Putsch Munich yn 1923 a sylweddoli wedi hynny bod rhaid newid tactegau’r Blaid Natsïaidd os oedd am ennill pŵer. Ar ôl iddo gael ei ryddhau o’r carchar crewyd Rhaglen 25 Pwynt i’r Blaid, aeth ati i ailsefydlu rheolaeth o’r Blaid Natsïaidd ac ad-drefnu strwythur ei blaid:

  • Cafodd Hitler ei adnabod fel arweinydd diamheuol y blaid a mynnai fod pawb yn ufuddhau’n llwyr i’w orchmynion. Cafodd y Blaid Natsïaidd ei had-drefnu yn rhanbarthol gyda phob cangen (Gau) yn cael ei rhoi dan reolaeth un o arweinwyr y blaid (Gauleiter).
  • Sefydlwyd mudiad Urdd Ieuenctid Hitler yn 1926 er mwyn denu cefnogaeth pobl ifanc.
  • Cafodd yr SA ei ad-drefnu a chyflwynwyd uned lai, yr SS, i roi diogelwch personol i Hitler.
  • Cafodd Joseph Goebbels, propagandydd galluog, ei benodi yn Gauleiter ar gyfer Berlin, a oedd yn ddatblygiad pwysig.
  • Gwnaeth y Natsïaid ymgais enfawr i wella eu perfformiad mewn etholiadau, er bod trais ar y stryd, wedi’i drefnu gan yr SA, yn gyffredin o hyd.

Defnyddiodd Hitler ei sgiliau areithio i ddal sylw cynulleidfa er mwyn ennill cefnogwyr i’r Blaid Natsïaidd. Byddai’n targedu ei neges yn ddibynnol ar bwy oedd ei gynulleidfa gan fwrw beirniadaeth llym ar wendidau Llywodraeth Gweriniaeth Weimar i fethu ymdopi gyda’r diweithdra uchel a ddaeth yn sgil y Dirwasgiad. Roedd yn chwarae ar ofn bobl am ddiweithdra, eu harswyd o gomiwnyddiaeth a’r casineb a deimlwyd yn yr Almaen tuag at delerau cywilyddus Cytundeb Versailles.

Roedd y Natsïaid hefyd yn effeithiol iawn yn eu defnydd o bropaganda wrth drosglwyddo’r syniadau hyn i’r cyhoedd gan ddefnyddio posteri a dosbarthwyd miliynau o bamffledi.

Y Dirwasgiad Mawr golygu

Er gwaethaf ei ymdrechion i ennill seddi yn y Reichstag (Senedd) ni chafodd y Blaid Natsïaidd llawer o lwyddiant mewn etholiadau yn ystod y 1920au. Ond gyda Cwymp Wall Street, yn Efrog Newydd yn Hydref 1929 achoswyd dirwasgiad byd-eang a gafodd effaith andwyol ar economi’r Almaen. Bu marwolaeth Stresemann, Gweinidog Tramor yr Almaen, yr adeg yma yn ergyd ychwanegol i hyder bobl yn yr economi. Galwodd UDA am yr arian roedd wedi ei fenthyg i’r Almaen ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf nôl a chyda hynny, caewyd ffatrïoedd a gweithfeydd gan achosi ddiweithdra a gynyddodd i 6 miliwn erbyn 1932. Cafodd pobl eu gwneud yn ddigartref, bu streicio a phrotestio ac yng nghanol yr anobaith llwyr gyda’r sefyllfa collodd bobl yr Almaen eu ffydd yng Ngweriniaeth Weimar a throi at bleidiau eithafol fel y Natsïaid a’r Comiwnyddion am yr atebion i’w problemau. Roedd y Natsïaid yn addo ‘gwaith a bara’ ac i wella amodau byw y bobl pe baent yn cael eu hethol i bŵer yn yr Almaen.[2][4]

Yn wyneb y Dirwasgiad Mawr ni allai’r Llywodraeth gytuno ar y camau angenrheidiol i arwain yr Almaen allan o’r argyfwng economaidd. Oherwydd hynny crewyd argyfwng gwleidyddol a yn yr Almaen. Penderfynodd Hindenburg basio Erthygl 48 yn 1930 fel bod Llywodraeth y Canghellor Bruning yn medru rheoli drwy archddyfarniad. Roedd hyn yn amhoblogaidd iawn yn yr Almaen oherwydd bellach nid oedd llywodraeth ddemocrataidd yn y wlad. Defnyddiodd Hitler y diffyg cyd-weithio rhwng y gwahanol bleidiau a’r cynllwynio gwleidyddol i’w fantais. Erbyn etholiadau Tachwedd 1932 y Natsïaid oedd y blaid fwyaf yn y Reichstag. Golygai hyn fod y Llywodraeth yn ddibynnol ar ei chefnogaeth pryd bynnag y byddai’n holi’r Reichstag i bleidleisio neu i basio cyfreithiau newydd.

Unben ar yr Almaen golygu

Methodd cynllwynion rhwng cadfridogion a gwleidyddion a dod â’r Blaid Natsïaidd dan reolaeth ac arweiniodd hyn at benodi Hitler yn Ganghellor yr Almaen ar 30 Ionawr 1933. Un o’i dasgau cyntaf oedd cael gwared ar ei bartneriaid yn y glymblaid. Galwodd etholiadau newydd i’r Reichstag yn 1933 fel y gallai lywodraethu gyda mwyafrif clir. Erbyn Awst 1934 roedd Hitler wedi ei sefydlu ei hun yn Führer, sef arweinydd unben yr Almaen. Golygai hynny bod ganddo awdurdod llwyr dros bob agwedd o fywyd yr Almaen ac roedd y wlad bellach yn wlad dotalitaraidd. Ymhen deunaw mis ers iddo ddod yn Ganghellor roedd wedi llwyddo i esgyn i bŵer llwyr dros yr Almaen.

Defnyddiwyd nifer o ddulliau gan Hitler a’r Natsïaid i gyrraedd y sefyllfa yma. Defnyddiwyd yr SA gan y Natsïaid i fygwth gwrthwynebwyr gwleidyddol y Natsïaid a defnyddiwyd tactegau dieflig ganddynt i danseilio hygrededd y Comiwnyddion cyn Etholiad Mawrth 1933. Ar Chwefror 27, 1933 aeth y Reichstag ar dân a rhoddodd y Natsïaid y bai ar y Comiwnydd, sef Iddew o’r Iseldiroedd o’r enw Marinus van der Lubbe. Arweiniodd hyn at ddrwgdeimlad yn erbyn y Comiwnyddion a defnyddiodd Hitler yr achlysur hwn fel esgus i basio deddfau argyfwng yn erbyn terfysgwyr ac arestio aelodau y Blaid Gomiwnyddol. Methodd y Natsïaid ennill digon o fwyafrif a chyhoeddodd Hitler fod y Blaid Gomiwnyddol yn anghyfreithlon. Daeth i gytundeb gyda’r Cenedlaetholwyr a’r Blaid Ganol a llwyddodd i basio y Ddeddf Alluogi ym mis Mawrth 1933. Rhoddai’r ddeddf hon yr hawl i Hitler reoli am bedair mlynedd heb ganiatad y Senedd, sef y Reichstag ac roedd pob plaid arall yn anghyfreithlon.

Daeth Hitler cam yn nes i ddod yn unben pan orchmynnodd lofruddiaeth Ernst Röhm, pennaeth yr SA ym Mehefin 1934. Roedd Röhm wedi dangos yn glir ei fod am i’r SA ymestyn ei rheolaeth dros y fyddin Almeinig hefyd ond gwelai Hitler hyn fel bygythiad a allai gael ei droi yn erbyn ef. Roedd Röhm yn rheoli dros 400,000 o Grysau Brown ac nid oedd Hitler yn awyddus i’w weld yn cynyddu ei bŵer ymhellach. Gwelai Hitler hefyd bod angen mwy o gefnogaeth y fyddin arno na Röhm. Ar Fehefin 30, 1934 felly, gorchmynnodd Hitler bod Röhm a thua 400 arall o arweinyddion yr SA yn cael eu harestio a’u lladd. Hon oedd ‘Noson y Cyllyll Hirion’. Dinistriwyd yr SA a disodlwyd hwy gan SS Himmler a ddatblygodd i fod hyd yn oed yn fwy pwerus.

Tua mis yn diweddarach bu Hindenburg farw ac unodd Hitler swydd y Canghellor a’r Arlywydd gan wneud ei hun yn Arweinydd y fyddin a phenodi ei hun yn Der Führer (sef unben) yr Almaen. Yn Awst 1934 gwnaeth y lluoedd arfog dyngu llw o deyrngarwch i Hitler fel Führer ac yn nes ymlaen gan swyddogion y fyddin. Roedd democratiaeth yn yr Almaen wedi marw ac roedd bellach yn wlad unbennaethol yn cael ei rheoli gan unben.

Yr Ail Ryfel Byd golygu

Yn ystod ei gyfnod fel Führer yr Almaen o 1934 ymlaen, trowyd yr Almaen yn wlad Natsïaidd ble roedd pob agwedd o fywyd y wlad, yn wleidyddol, yn gymdeithasol, yn grefyddol ac yn economaidd, yn cael ei rheoli gan y gyfundrefn Natsïaidd.[2]  Roedd polisi tramor ymosodol Hitler yn Ewrop, er enghraifft yn y Rheindir yn 1936, yr meddiannu Tir y Swdeten a’r Anschluss gyda Awstria yn 1938, a chytundebau gyda gwahanol wledydd, wedi creu sefyllfa ble roedd rhyfel yn anochel.[1]  

O dan arweinyddiaeth Hitler roedd y Natsïaid yn gyfrifol am hil-laddiad tua 6 miliwn o Iddewon a miliynau o ddioddefwyr eraill yr oedd ef a'i ddilynwyr yn eu hystyried yn is-ddynol neu'n gymdeithasol annymunol. Hitler hefyd oedd yn gyfrifol yn y pen draw am ladd amcangyfrif o 19.3 miliwn o sifiliaid a charcharorion rhyfel. Yn ogystal, bu farw 28.7 miliwn o filwyr a sifiliaid o ganlyniad i weithredu milwrol yn y theatr Ewropeaidd.

Marwolaeth golygu

Gyda methiant Hitler i goncro Rwsia yn 1942, sef ym Mrwydr Stalingrad profodd hyn i fod yn drobwynt ac o hynny ymlaen dechreuodd yr Almaen golli’r rhyfel. Bomiwyd dinasoedd fel Berlin, Dresden, Cologna a Hamburg a dechreuodd rhai Almaenwyr amau arweinyddiaeth Hitler a gallu’r Almaen i ennill y rhyfel. Wrth i’r Rwsiaid agosau a gyda chwymp Berlin, roedd Hitler yn ei fyncer yn y brifddinas. Gyda’i wraig, Eva Braun, cyflawnodd hunanladdiad ar Ebrill 30, 1945 yn y byncer o dan Canghellordy y Reich yn Berlin.

Yn fuan ar ôl hynny ildiodd yr Almaen i’r Cynghreiriaid ac ar Fai 8, 1945 daeth y rhyfel yn Ewrop i ben. Rhannwyd Berlin a’r Almaen rhwng y Prif Gynghreiriaid ac UDA ac yn 1946 rhoddwyd y prif droseddwyr rhyfel Natsïaidd o flaen llys yn Nhreialon Nuremburg.  

Ffilmiau golygu

  • The Great Dictator, ffilm gomedi fwrlesg gan Charlie Chaplin sy'n dychanu'r unben 'Adenoid Hynkel' (Adolf Hitler).
  • Der Untergang (Y Dymchweliad) (2004). Ffilm Almaenig am ddyddiau olaf Adolf Hitler. Mae'n rhannol ddibynnol ar hunangofiant Traudi Junge.

Llyfryddiaeth golygu

  • Kershaw, Ian. Hitler (Penguin, 2009).

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Datblygu rhyfela" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 15 Mehefin 2020.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 "Datblygiad yr Almaen" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 15 Mehefin 2020.
  3. "Cytundeb Versailles". hwb.gov.wales. Cyrchwyd 2020-06-15.
  4. 4.0 4.1 "The Munich Putsch". resources.wjec.co.uk. Cyrchwyd 2020-06-15.
Rhagflaenydd:
Kurt von Schleicher
Canghellor yr Almaen
30 Ionawr 193330 Ebrill 1945
Olynydd:
Joseph Goebbels
Rhagflaenydd:
Paul von Hindenburg
Arlywydd yr Almaen
2 Awst 193430 Ebrill 1945
Olynydd:
Karl Dönitz