Ilud ach Brychan
Santes oedd Ilud, un o 24 o ferched Brychan Brycheiniog [1]
Ilud ach Brychan | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | crefyddwr |
Tad | Brychan |
Cysegriadau
golyguGwyddom fod Ilud wedi sefydlu dwy Llanilud, yn naill ger Pontsenni a'r llall ym Mro Morgannwg.[2] Mae'n bosibl fod eglwys Jwlian yn yr Amwythig, a adeiladwyd a seiliau o'r 5ed canrif hefyd yn un o'i llannau hithau.
Cymysgiadau
golyguMae ffurf Lladin o'i henw Julietta neu Juliana yn peri fod llannau a chysylltir a Ilud yn cael ei dehongli fel eglwysi wedi cysegru i santes arall, Julietta, a merthyrwyd yn Rhufain tua dechrau y 4g er mae safleoedd eglwysi o Oes y Seintiau, yn coffáu sant leol yn wreiddiol. Cymysgir Ilud hefyd gyda santes o Gernyw, Juliot, oedd yn perthyn i dylwyth Brychan.
Llanilltud Fawr
golyguTreuliodd Ilud amser yn Llanilltud Fawr. Dwedir mynaich yr Oesoedd Canol fod y llan a dyfodd i fod y clas enwocaf Oes y Seintiau wedi sefydlu gan Illtud. Maen nhw yn niwlog iawn am rhieni Illtud (wrth cymharu â'r manylion a rhoddir am saint enwog eraill) Dywed rhai fod Illtud wedi geni ym Mrycheiniog tua'r 450 yn blentyn i dad o Lydaw a sefydlodd Llanilltud [1] rhwng 470-480 gyda cymorth Garmon (bu farw 480) Mae eraill yn dweud fod Illtud yn ddisgybl i Peulin (ganwyd tua 480) a pan oedd yn ifanc aeth i gwasanaethu Arthur fel milwr cyn troi at fywyd crefyddol, sy'n awgrymu ei fod wedi geni ar ddiwedd y 5g. Mae hefyd dau ddyddiad ar gyfer marwolaeth Illtud 537 a 545 a dau le a cofnodir fel man ei farwolaeth, Aberhonddu a Llydaw.[2] Mae'n debyg fod hanes Illtud yn cymysgiad o hanesion am o leiaf dau berson. Buasai'r hynaf wedi cyfoesi a merched Brychan ar ieuengaf, efallai, yn fab neu 'fab yn y ffydd' i'r hynaf. Bu gan Illtud, fel Ilud, cysylltiadau agos â Aberhonddu. Gelwir cromlech ger y dref a defnyddiwyd ganddo am gyfnodau fel meudwy yn Tŷ Illtud a cysegrwyd eglwys Libanus iddo.
Ni buasai mynaich yr Oesoedd Canol wedi medru meddwl fod clas mor pwysig â Llanilltud Fawr wedi sefydlu gan ddynes. Hyd yn oedd heddiw buasai'n anodd i rhai ystyried gall yr Illtud hynaf bod yn ddynes.
Dylid darllen yr erthygl hwn ynghyd-destun "Santesau Celtaidd 388-680"