Immanuel Feyi-Waboso
Chwaraewr rygbi o Gymru yw Immanuel Feyi-Waboso (ganwyd 20 Rhagfyr 2002) sy'n chwarae dros Exeter Chiefs.
Immanuel Feyi-Waboso | |
---|---|
Ganwyd | 20 Rhagfyr 2002 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Rumney RFC, Rygbi Caerdydd, Wales national under-18 rugby union team, Wasps RFC, Exeter Chiefs |
Safle | Asgellwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru, Lloegr |
Gyrfa
golyguGanwyd Immanuel yn un o chwech o blant i rieni o Nigeria ac fe aeth i ysgol Corpus Christi. Yn ei yrfa athletau roedd yn arbenigo yn ras y clwdi a'r naid uchel. Dechreuodd Immanuel chwarae gyda chlwb rygbi Rhymni ac yna Ysgolion Caerdydd dan 11 a 15 yn ogystal â'r thîmau oedran ac academi Rygbi Caerdydd. Chwaraeodd ei gêm broffesiynnol gyntaf i Gaerdydd yn 18 oed yn erbyn Y Gweilch. Arwyddodd i academi y Wasps yn Chwefror 2022 a dechreuodd astudio meddygaeth ym mhrifysgol Aston (roedd yn gobeithio cael lle yng Nghaerdydd). Pan aeth y Wasps dan weinyddiaeth yn Hydref 2022, arwyddyd ef gan yr Exeter Chiefs.[1][2]
Ym mis Tachwedd 2023, derbyniodd bas dadlwytho gan Dafydd Jenkins i sgorio cais o 60m yn erbyn tîm Newcastle Falcons.[3]
Uchelgais chwarae dros Gymru
golyguAr y posibilirwydd o chwarae rygbi i dîm cenedlaethol dywedodd Immanuel, "Cefais fy ngeni yng Nghymru, Cymru yw fy mamwlad. Rwy'n siarad ychydig o Gymraeg".[4] Ei uchelgais, felly, yw chware i Gymru.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Exeter Chiefs Player List". www.exeterchiefs.co.uk. Cyrchwyd 2023-11-27.
- ↑ Thomas, Simon (2022-02-15). "'Special future Wales international' Feyi-Waboso lost to English Premiership". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-11-27.
- ↑ James, Dylan (2023-11-26). "New Welsh rugby sensation scores stunning 60m try to leave commentators in awe". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-11-26.
- ↑ "No direct Wales or England contact - Feyi-Waboso". BBC Sport (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-11-26.