Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi

ysgol yng Nghaerdydd

Ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg yn ardal Pentwyn, Caerdydd ydy Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi (Saesneg: Corpus Christi Roman Catholic High School; cyn-enw: Ysgol Uwchradd Gatholig y Fonesig Fair / Lady Mary Catholic High School). Y prifathro presennol ydy Mr Patrick Brunnock.[2]

Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi
Corpus Christi Roman Catholic High School
Arwyddair Together we are the body of Christ
Ystyr yr arwyddair Gyda'n gilydd, ni yw corff Crist
Math Cyfun, Gwirfoddol
Cyfrwng iaith Saesneg
Crefydd Catholig
Pennaeth Mr Patrick Brunnock
Lleoliad Heol Tŷ-Draw, Pentwyn, Caerdydd, Cymru, CF23 6XL
AALl Cyngor Dinas Caerdydd
Disgyblion 1035[1]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–16
Lliwiau Du a phiws/coch
Gwefan http://www.corpuschristi.cardiff.sch.uk

Mae'r ysgol o dan reolaeth awdurdod addysg leol Caerdydd ond caiff ei ariannu'n wirfoddol. Mae'n gwasanaethu plant rhwng 11 ac 16 oed ar safle fawr a agorwyd ym 1995. Daw disgyblion yr ysgol o dalgylch eang sy'n cynnwys Cyncoed, Llysfaen, Waunadda, Llanedeyrn, Pentre-Baen a Phentwyn.[3]

Mae'n ysgol Gatholig ond caiff unrhyw ddisgyblion fynychu cyn belled a'u bod yn gyfforddus yn dysgu o fewn amgylchedd Cristnogol. Arwyddair yr ysgol ydy "Gyda'n gilydd ni yw corff Crist", sy'n cael ei gyfieithu i "Together we are the body of Christ" yn Saesneg.[1]

Nid oes gan yr ysgol chweched ddosbarth, mae'r mwyafrif o'r disgyblion yn mynd Goleg Gatholig Dewi Sant ar gyfer addysg bellach ar ôl gael eu TGAU.

Roedd 1035 o ddisgyblion yn yr ysgol ystod arolygiad Estyn 2003,[1] mae'r nifer hwn yn sefydlog gyda 1034 o ddisgyblion yn 2009.[3] Dim ond ychydig iawn ohonynt ddaeth o gefndiroedd lleiafrif ethnig.[1]

Disgrifiodd adroddiad Estyn 2003 safon y dysgu fel da, gyda'r myfyrwyr yn ymateb yn dda fel rheol. Roedd y canlyniadau TGAU yn sylweddol uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol yn 2003 a 2009.[1][3] Cydnabuwyd Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi fel yr un oedd wedi gwella fwyaf yn genedlaethol yn 2002.[1]

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu