Mynegai Datblygu Dynol
(Ailgyfeiriad o Indecs Datblygiad Dynol)
Mae'r Mynegai Datblygu Dynol yn mesur disgwyliad bywyd, llythrennedd, addysg a safon byw yng ngwledydd y byd. Datblygwyd y mesur yma yn 1990 gan Amartya Sen o India a Mahbub ul Haq o Bacistan.
0.800–1.000 (uchel iawn) 0.700–0.799 (uchel) 0.550–0.699 (cymedrol) | 0.350–0.549 (isel) Data nad yw ar gael |
Cyhoeddwyd yr adroddiad yn Ne Affrica ar 9 Tachwedd 2006. Roedd yn dangos gwelliant yn y gwledydd datblygedig ond dirywiad mewn llawer o wledydd sy'n datblygu.
Mae sgôr dan 0.5 yn dangos lefel isel o ddatblygiad. O'r 31 gwlad yn y categori yma, mae 29 yn Affrica; yr eithriadau yw Haiti a Yemen. Mae sgôr o 0.8 neu fwy yn dangos gwlad sydd a lefel uchel o ddatblygiad. Norwy oedd ar y brig yn 2006.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Human Development Report 2019 – "Human Development Indices and Indicators"" (PDF). HDRO (Human Development Report Office), United Nations Development Programme. tt. 22–25. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2019.