Iemen

(Ailgyfeiriad o Yemen)

Gwlad yn ne-orllewin gorynys Arabia yw Gweriniaeth Iemen neu Iemen (Arabeg: اليَمَن‎‎). Y gwledydd cyfagos yw Sawdi Arabia i'r gogledd ac Oman i'r dwyrain. Yn y de mae gan y wlad arfordir ar y Môr Coch a Gwlff Aden. Sana'a yw prifddinas y wlad.

Iemen
Arwyddairالله ،الوطن، الثورة، الوحدة Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad Edit this on Wikidata
Lb-Jemen.ogg, LL-Q7913 (ron)-KlaudiuMihaila-Yemen.wav Edit this on Wikidata
PrifddinasSana'a, Aden Edit this on Wikidata
Poblogaeth28,250,420 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1990 Edit this on Wikidata
AnthemNational anthem of Yemen Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMaeen Abdulmalik Saeed Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00, Asia/Aden Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Arabeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Dwyrain Canol, De-orllewin Asia Edit this on Wikidata
GwladBaner Iemen Iemen
Arwynebedd555,000 ±1 km² Edit this on Wikidata
GerllawY Môr Coch, Môr Arabia Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSawdi Arabia, Oman Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau15.5°N 48°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolGovernment of Yemen Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholParliament of Yemen Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arglwydd Iemen Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethRashad al-Alimi Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Iemen Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMaeen Abdulmalik Saeed Edit this on Wikidata
Map
ArianYemeni rial Edit this on Wikidata
Canran y diwaith60 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant4.16 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.455 Edit this on Wikidata

Mae ganddi dros 555,000 km sgwâr o arwynebedd a phoblogaeth o tua 24 miliwn (2010). Mae ei ffiniau yn cwmpasu dros 200 o ynysoedd, y mwyaf o'r rheiny ydy Socotra a leolir tua 415 km i'r de o'r tir mawr, ac i ffwrdd o arfordir Somalia. Hi yw'r unig wlad arabaidd sydd a llywodraeth gweriniaethol.

Daearyddiaeth golygu

Mae'r wlad, sydd ag arwynebedd o 527,970 km sgwâr: tua'r un faint â Gwlad Tai – ac ychydig mwy na thalaith Califfornia, sy'n ei gwneud y 49fed gwlad mwyaf ei maint. Hyd at arwyddo cytundeb heddwch Iemen-Sawdi Arabia yng Ngorffennaf 2000, roedd ei ffiniau'n annelwig gan na all pobl fyw yn y diffeithwch hwn. Gellir rhannu'r wlad, yn ddaearyddol, yn bedair rhan: gwastatiroedd arfordirol y gorllewin, ucheldiroedd y gorllewin, ucheldiroedd y dwyrain a Rub al Khali yn y dwyrain.

 
Ffiniau modern y wlad gyda Sawdi Arabia i'r gogledd

Chwyldro 2011 golygu

Yn dilyn cynnau gwreichionen chwyldro Arabaidd Tiwnisia yn Rhagfyr 2011 a Gwanwyn 2011 ymledodd y protestiadau drwy nifer o wledydd y Dwyrain Canol gan gynnwys protestiadau yn Iemen. Ar yr un pryd gwelwyd chwyldro yn yr Aifft a llefydd eraill. Ar y cychwyn codwyd llais yn erbyn diweithdra, y cyflwr economaidd ac yn erbyn llygredd yn llywodraeth Iemen.[1] Cafwyd protestio hefyd yn erbyn bwriad y llywodraeth i newid cyfansoddiad Iemen. O fewn dyddiau bron, galwyd am ymddiswyddiad y Prif Weinidog Ali Abdullah Saleh. Trodd llawer o filwyr a swyddogion y llywodraeth at ochr y protestwyr. Ar y 23 Ebrill cytunodd Saleh i ymddiswyddo, ond gwrthododd i arwyddo'r cytundebau priodol; gwnaeth hyn dair gwaith.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gwefan saeneg Reuters; adalwyd 2011". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-01-20. Cyrchwyd 2011-01-20.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Asia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato