Pyrénées-Atlantiques

département Ffrainc

Un o départements Ffrainc, yn rhanbarth Nouvelle-Aquitaine (ac Aquitaine cyn hynny) yn ne-orllewin y wlad, yw Pyrénées-Atlantiques (Ocsitaneg: Pirenèus-Atlantics; Basgeg: Pirinio Atlantikoak). Ei phrifddinas yw Pau. Gorwedd ar lan Bae Biscay. Mae'n ffinio â départements Landes, Gers, a Hautes-Pyrénées. Mae'r enw yn golygu Pyrénées yr Iwerydd, ac mae rhan helaeth yr ardal yn fynyddog. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o dalaith hanesyddol Gasgwyn. Hanner gorllewinol y département yw gogledd Gwlad y Basg; yr hanner dwyreiniol yw rhanbarth Béarn, sy'n draddodiadol Gwasgwyneg ei hiaith, ac felly'n rhan o Ocsitania. Er hynny, mae rhai megis Federico Krutwig yn ystyried Gasgwyn yn rhan o Wlad y Basg.

Pyrénées-Atlantiques
Arms of the French Department of the Pyrénées Atlantiques.svg
MathDépartements Ffrainc Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlPyreneau, Cefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
PrifddinasPau Edit this on Wikidata
Poblogaeth687,240 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 4 Mawrth 1790 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethJean-Jacques Lasserre Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirNouvelle-Aquitaine Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Arwynebedd7,645 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaGers, Hautes-Pyrénées, Landes, Talaith Huesca, province of Navarra, Gipuzkoa Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.25°N 0.833333°W Edit this on Wikidata
FR-64 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
president of departmental council Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethJean-Jacques Lasserre Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Pyrénées-Atlantiques yn Ffrainc

Mae'r prif drefi yn cynnwys:

HanesGolygu

Cyn y Chwyldro Ffrengig, gweinyddwyd Lapurdi, Teyrnas Navarra a Teyrnas Béarn ar wahân, ond ar y 4 Mawrth 1790, crëwyd y département newydd. O ganlyniad, nid oedd gan ogledd Wlad y Basg unrhyw fath o fodolaeth gweinyddol neu ymreolaeth am dros 200 mlynedd.

Gweler hefydGolygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.