Iris Jones
Actores a chyflwynydd o Gymraes oedd Iris Jones (tua 1935 – 29 Mehefin 2017) a chwaraeodd gymeriadau ar yr operau sebon Minafon a Phobol y Cwm.[1]
Iris Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1935 |
Bu farw | 29 Mehefin 2017 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor |
Bywgraffiad
golyguFe'i magwyd ym Mhwllhelli ac aeth i astudio yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd.
Gwaith cyflwyno
golyguAeth i weithio fel cyflwynydd gyda chwmni teledu Granada yn 1960. Roedd y cwmni yn darlledu rhaglenni Cymraeg i siroedd gogledd Cymru o'i stiwdios ym Manceinion.
Ei swydd gyntaf oedd cyflwyno'r rhaglen gylchgrawn Dewch i Mewn. Yn 1962 daeth cwmni Teledu Cymru i fodolaeth gan ddod â rhaglenni Cymraeg Granada i ben.[2]
Aeth Iris i Lundain gyda'i bryd ar berfformio yn y West End. Cafodd glyweliad yn Theatr y Llys Brenhinol gan ennill rhan mewn sioe gerdd. Ond penderfynodd geisio am swydd cyflwyno gyda'r sianel newydd Teledu Cymru a fyddai'n darlledu yn y gogledd. Ni chafodd y swydd ond penderfynodd symud o Bwllheli i Gaerdydd gan fenthyg lifft gan yrrwr lorri gan nad oedd ganddi ddigon o arian i ddal y trên. Nid oedd ganddi le i aros yng Nghaerdydd a chafodd loches yn y Catholic Hostel ar Heol y Gadeirlan. Cafodd alwad gan gyn-gydweithiwr iddi o Granada, yn cynnig swydd fel mamaeth i deulu yng Nghaerdydd. Cymerodd y swydd ond roedd ei bryd yn dal i fod ar swydd gyflwyno.
Ym Mawrth 1963 cafodd gynnig swydd gyda Teledu Cymru wedi i Gwenda Pritchard Jones adael ei swydd. Roedd yn gyfrifol am gyflwyno'r rhaglenni yn ddwyieithog gan blethu rhaglenni lleol a rhaglenni o rwydwaith ITV. Roedd hefyd yn cyflwyno'r 'clwb pen-blwyddi' yn rhoi cyfarchion i blant a rhagolygon y tywydd. Daeth Teledu Cymru i ben yn Ionawr 1964 oherwydd trafferthion ariannol, a pharhaodd Iris yno hyd y diwedd. Trosglwyddwyd y tonfeddi i gwmni TWW, a chafodd Iris gynnig waith cyflwyno ar gyfer gwasanaeth newydd TWW i Gymru. Bu'n gweithio yn yr adran gyflwyno yno hyd ddiwedd TWW ym Mai 1968 pan drosglwyddwyd y fasnachfraint i gwmni HTV.
Parhaodd i weithio fel cyflwynydd ar HTV yn cynnwys rhaglen i blant Tins a Lei a rhaglen gylchgrawn i ferched Hamdden.
Actio
golyguYmddangosodd ar Pobol y Cwm yn y gyfres gyntaf un yn 1974, yn chwarae rhan cariad Charles Williams. Yn yr wythdegau cafodd ran ar yr opera sebon Minafon, ymddangosodd yn y ffilm Stormydd Awst a bu'n chwarae rhan Anti Elin yn y gyfres gomedi Teulu'r Mans. Rhwng 1997 a 2005, bu'n portreadu cymeriad Beryl Nicholas yn yr opera sebon Pobol y Cwm.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Teyrngedau i'r actores Iris Jones , BBC Cymru fyw, 29 Mehefin 2017. Cyrchwyd ar 30 Mehefin 2017.
- ↑ (Saesneg) Iris Jones - People. Transdiffusion (1 Medi 2001).
- ↑ Marw’r actores, Iris Jones , Golwg360, 30 Mehefin 2017.
Dolen allanol
golygu- BBC Cymru Fyw Teyrnged i Iris Jones gan yr actores Rhian Morgan (clip sain)