TWW

cwmni darlledu ITV yn "Ne-ddwyrain Cymru a Gorllewin Lloegr"

Teledu Cymru a'r Gorllewin (Television Wales and the West) - (TWW) oedd y cwmni darlledu ITV yn "Ne-ddwyrain Cymru a Gorllewin Lloegr" rhwng 14 Ionawr 1958 a 4 Mawrth 1968.[1][2]

TWW
Enghraifft o'r canlynoldarlledwr Edit this on Wikidata
Daeth i ben4 Mawrth 1968 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu14 Ionawr 1958 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganHTV Edit this on Wikidata
PerchennogEdward Stanley, 18fed arglwydd Derby Edit this on Wikidata
PencadlysCaerdydd Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthCymru Edit this on Wikidata

Darlledwyd am y tro cyntaf am 4:45 pm ar 14 Ionawr 1958 o stiwdio ym Mhontcanna, Caerdydd, gyda rhaglen chwarter awr yng nghwmni'r Arglwydd Derby, Syr Ifan ab Owen Edwards, Bruce Lewis ac Alfred Francis. Roedd y sianel yn darlledu nifer o raglenni yn Gymraeg yn cynnwys y rhaglen newyddion Y Dydd, rhaglen gylchgrawn Amser Te a rhaglen o gerddoriaeth Gymreig, Gwlad y Gân.

Dechreuodd yr masnachfraint ar 26 Hydref 1956 a gorffennodd yn 1968 pan gollodd TWW yr etholfraint i gwmni Arglwydd Harlech.

Am y 6 mlynedd cyntaf, un trosglwyddydd oedd gan y cwmni, ond ymunodd y cwmni â WWN o ogledd a gorllewin Cymru yn 1964 a manteisiwyd ar eu trosglwydyddion nhw, gan ddarlledu i bron y cyfan o Gymru. Roedd y sianel yn ddwyieithog hyd at wanwyn 1968 pan ddaeth TWW i ben ac fe ddechreuodd gwasanaeth “ITSWW” (Independent Television Service for Wales and the West) am gyfnod byr. Ar 20 Mai 1968, dechreuodd sianel newydd Harlech (HTV).

Cyfeiriadau

golygu
  1. Ident Archifwyd 2006-07-15 yn y Peiriant Wayback (Transdiffusion Broadcasting System / Electromusications), adalwyd 19 Awst 2006
  2. Royal Television Society Archifwyd 2007-09-28 yn y Peiriant Wayback, adalwyd 19 Awst 2006

Dolennau allanol

golygu