Pamplona
Pamplona (Basgeg: Iruña neu Iruñea) yw prifddinas cymuned ymreolaethol Nafarroa yng Gwlad y Basg yng ngwladwriaeth Sbaen. Yn hanesyddol, ystyrir Pamplona gan y mwyafrif [angen ffynhonnell] fel prifddinas Gwlad y Basg (Euskal Herria).
Math | bwrdeistref Sbaen |
---|---|
Prifddinas | Pamplona city |
Poblogaeth | 205,762 |
Sefydlwyd |
|
Pennaeth llywodraeth | Enrique Maya Miranda, Joseba Asirón, Enrique Maya Miranda, Yolanda Barcina, Cristina Ibarrola, Joseba Asirón |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Gefeilldref/i | |
Nawddsant | Saturnin |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg, Basgeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Pamplona metropolitan area, Mixed Zone of Navarre |
Sir | Basin of Pamplona |
Gwlad | Gwlad y Basg Sbaen |
Arwynebedd | 23.55 km² |
Uwch y môr | 450 metr |
Gerllaw | Arga |
Yn ffinio gyda | Ansoáin-Antsoain, Ezcabarte, Burlada/Burlata, Villava-Atarrabia, Valley of Egüés, Aranguren, Galar, Cendea de Cizur, Zizur Mayor/Zizur Nagusia, Barañáin, Olza, Orkoien, Berrioplano/Berriobeiti, Berriozar |
Cyfesurynnau | 42.8167°N 1.65°W |
Cod post | 31001–31016 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer Pamplona |
Pennaeth y Llywodraeth | Enrique Maya Miranda, Joseba Asirón, Enrique Maya Miranda, Yolanda Barcina, Cristina Ibarrola, Joseba Asirón |
Saif ar Afon Arga, a 205,762 (2023) yw poblogaeth y ddinas. Yn y cyfnod Rhufeinig, tyfodd pentref Iruñea i fod yn ddinas Rufeinig "Pompaelo", wedi ei henwi ar ôl Pompeius Magnus, a'i sefydlodd yn 74 CC. Cafodd ei chipio gan y Mwslimiaid yn yr 8g, ac yn 778 dinistriwyd y muriau gan Siarlymaen ychydig cyn Brwydr Ronsyfal. Yn ail hanner y 9g ffurfiwyd Teyrnas Pamplona.
Mae Pamplona yn enwog am y Sanferminak, gŵyl sy'n cael ei chynnal rhwng 6 ac 14 Gorffennaf i anrhydeddu Sant Fermín, nawdd-sant Nafarroa. Y rhan enwocaf o'r ŵyl yw'r "rhedeg gyda'r teirw".
Y ddinas yw diwedd ail ran y Camino de Santiago o Ronsyfál i Santiago de Compostela.