Isabelle de Charrière

cyfansoddwr a aned yn 1740

Llenor o'r Iseldiroedd oedd Isabelle de Charrière (20 Hydref 1740 - 27 Rhagfyr 1805). Fe'i hadwaenir fel Belle van Zuylen yn yr Iseldiroedd; mewn gwledydd eraill, fe'i hadnabyddwyd fel Madame Isabelle de Charrière.

Isabelle de Charrière
FfugenwBelle de Zuylen, Abbé de la Tour Edit this on Wikidata
GanwydIsabella Agneta Elisabeth van Tuyll van Serooskerken Edit this on Wikidata
20 Hydref 1740 Edit this on Wikidata
Slot Zuylen Edit this on Wikidata
Bu farw27 Rhagfyr 1805 Edit this on Wikidata
Colombier Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd
Galwedigaethcyfieithydd, cyfansoddwr, nofelydd, llenor, dramodydd, bardd, awdur ysgrifau, athronydd Edit this on Wikidata
TadDiederik Jacob van Tuyll van Serooskerken Edit this on Wikidata
MamJacoba Helena de Vicq Edit this on Wikidata
PriodCharles-Emmanuel de Charrière Edit this on Wikidata
LlinachTuyll van Serooskerken, de Charrière Edit this on Wikidata

Ysgrifennai nofelau, pamffledi, cerddoriaeth a dramâu. Cymerodd ddiddordeb byw yn y gymdeithas ac mewn gwleidyddiaeth ac ystyrir bod y gwaith o gyfnod y Chwyldro Ffrengig o ddiddordeb arbennig.

Magwraeth

golygu

Ganed Isabelle Agneta Elisabeth van Tuyll van Serooskerken yng Nghastell Zuylen yn Zuilen ger Utrecht, yr Iseldiroedd, i Diederik Jacob van Tuyll van Serooskerken (1707-1776), a Helena Jacoba de Vicq (1724–1768). Hi oedd yr hynaf o saith o blant. Disgrifiwyd ei rhieni gan yr awdur Albanaidd James Boswell, a oedd yn fyfyriwr yn y gyfraith yn Utrecht a chariad potensial, fel "un o'r uchelwyr mwyaf yn y Saith Talaith" a disgrifiwyd hi fel "gwraig o Amsterdam, gyda llawer iawn o arian." Yn y gaeaf roeddent yn byw yn eu hail gartref, yn ninas Utrecht.[1][2][3][4][5]

Yn 1750, anfonwyd Isabelle i Genefa. teithiodd yno drwy'r Swistir a Ffrainc gyda'i hathrawes Ffrangeg Jeanne-Louise Prevost, a fu'n gydymaith-athrawes iddi rhwng 1746-1753. Ar ôl siarad Ffrangeg yn unig am flwyddyn, bu'n rhaid iddi ailddysgu Iseldireg ar ôl dychwelyd adref i'r Iseldiroedd. Fodd bynnag, byddai Ffrangeg yn parhau'n ddewis iaith iddi am weddill ei hoes, sy'n helpu i esbonio pam, am amser hir, nad oedd ei gwaith mor adnabyddus yn ei gwlad enedigol ag yr oedd mewn gwledydd eraill.

 
Portread olew ohoni gan Guillaume de Spinny (1721–1785)

Cafodd Isabelle addysg llawer ehangach nag oedd yn arferol i ferched bryd hynny. Diolch i farn ryddfrydol ei rhieni cafodd astudio pynciau fel mathemateg, ffiseg ac ieithoedd fel Lladin, Eidaleg, Almaeneg a Saesneg. Cofnodir ei bod yn fyfyriwr dawnus a oedd bob amser â diddordeb mewn cerddoriaeth; ym 1790 dechreuodd astudio gyda'r cyfansoddwr Niccolò Zingarelli.[6][7]

Priodi

golygu

Yn 1771, priododd Charles-Emmanuel de Charrière de Penthaz (1735–1808), a fu'n gyn-diwtor preifat i'w brawd Willem René dramor rhwng 1763 ac 1766. Yn ddiweddarach, fe'i gelwid yn Isabelle de Charrière. Fe wnaethon nhw setlo yn Le Pontet yn Colombier (ger Neuchatel), a brynwyd gan ei daid Béat Louis de Muralt, gyda'i thad-yng-nghyfraith François (1697–1780) a dwy chwaer yng nghyfraith: Louise (1731–1810) a Henriette (1740–1814). Treuliodd y cwpl hefyd lawer o amser yn Genefa a Pharis.

Gweithiau llenydol

golygu

Ysgrifennodd Isabelle de Charrière nofelau, pamffledi a dramâu, a chyfansoddodd gerddoriaeth. Dim ond ar ôl iddi fod yn byw yn Colombier am nifer o flynyddoedd y daeth ei chyfnod mwyaf cynhyrchiol. Roedd y themâu'n cynnwys ei amheuon crefyddol, yr uchelwyr a magwraeth merched.

Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Le Noble, yn 1763.[8] Roedd yn ddychan yn erbyn yr uchelwyr ac er iddo gael ei gyhoeddi'n ddienw, daeth ei rhieni i wybod mai hi oedd yr awdur a thynnwyd y gwaith yn ôl o'i werthu. Yna, yn 1762, ysgrifennodd bortread ohoni hi ei hun ar gyfer ei ffrindiau: Portrait de Mll de Z., sous le nom de Zélide, fait par elle-même. Ym 1784 cyhoeddodd ddwy nofel, Lettres neuchâteloises a Lettres de Mistress, pari amie Henley publiée par.

Yn 1788, cyhoeddodd ei phamffledi cyntaf am y sefyllfa wleidyddol yn yr Iseldiroedd, yn Ffrainc a'r Swistir.[6][9]

Fel un a edmygai waith yr athronydd Jean-Jacques Rousseau (28 Mehefin 1712 - 2 Gorffennaf 1778), cynorthwyodd yng nghyhoeddiad ei waith, Confessions, wedi iddo farw, yn 1789. Ysgrifennodd hefyd ei thaflenni ei hun ar Rousseau tua'r adeg hon.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Disgrifiwyd yn: https://www.bartleby.com/library/bios/index4.html.
  3. Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 15 Mehefin 2024.
  4. Dyddiad geni: "Isabella Agneta Elisabeth van Tuyll van Serooskerken". Biografisch Portaal van Nederland. dynodwr BPN: 88067119. "Isabelle de Charrière". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Isabelle-Agnes-Elizabeth de Charriere". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Isabelle Agneta Elisabeth Barones van Tuyll van Serooskerken". The Peerage. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Isabella van Tuyll van Serooskerken van Zuylen". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Isabelle de Charrière". ffeil awdurdod y BnF. "Isabelle de Charrière".
  5. Dyddiad marw: "Isabella Agneta Elisabeth van Tuyll van Serooskerken". Biografisch Portaal van Nederland. dynodwr BPN: 88067119. "Isabelle de Charrière". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Isabelle-Agnes-Elizabeth de Charriere". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Isabelle Agneta Elisabeth Barones van Tuyll van Serooskerken". The Peerage. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Isabella van Tuyll van Serooskerken van Zuylen". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  6. 6.0 6.1 Nodyn:GroveOnline
  7. "First letter to Count Dönhoff". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-07. Cyrchwyd 2019-04-17.
  8. Clawr Le Noble, Conte moral 1763 yn yr Hag
  9. See her music at Wikisource