İzmir
(Ailgyfeiriad o Izmir)
Dinas a phorthladd yng ngorllewin Twrci yw İzmir (Groeg: Σμύρνη, Smýrni), hefyd Smyrna. İzmir yw ail borthladd Twrci, ar ôl Istanbul, a thrydedd dinas y wlad, gyda phoblogaeth o 4,130,444 yn 2009). Saif tua 450 km o'r de-orllewin o Istanbul. Hi yw prifddinas talaith İzmir.
![]() | |
Math | bwrdeistref fetropolitan Twrci, dinas â phorthladd, dinas â miliynau o drigolion ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 4,320,519 ![]() |
Sefydlwyd |
|
Pennaeth llywodraeth | Tunç Soyer ![]() |
Cylchfa amser | UTC+03:00 ![]() |
Gefeilldref/i | Ancona, Baku, Famagusta, Mostar, Shymkent, Long Beach, Califfornia, Volgograd, Bishkek, Bremen, Odense, Tel Aviv, Bălţi, Tampa, Sousse, Tianjin, La Habana, Kardzhali, Constanța, Mumbai, Plzeň, Split, Türkmenabat, Wuhan, Xiamen, Bukhara, Tref y Penrhyn, Surabaya, Torino, Gogledd Nicosia, Chengdu, Sarajevo, Sir Hamyang, São Paulo, Skopje ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | İzmir ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 11,891 km² ![]() |
Uwch y môr | 2 ±1 metr ![]() |
Gerllaw | Gulf of İzmir, Môr Aegeaidd, Afon Gediz ![]() |
Yn ffinio gyda | Aydın, Balıkesir, Manisa ![]() |
Cyfesurynnau | 38.4°N 27.1°E ![]() |
Cod post | 35000–35999 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of İzmir ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Tunç Soyer ![]() |
![]() | |

Sefydlwyd y ddinas tua 3000 C.C.. Rhwng tua 2000 C.C. a 1200 C.C., roedd yn ffurfio rhan o Ymerodraeth yr Hethiaid. Tua'r flwyddyn 1000 C.C., fe'i poblogwyd gan ymfudwyr o Wlad Groeg ac Anatolia. Yn 688 CC, fe'i cipiwyd gan ddinas Colofon, a daeth yn rhan o Gynghrair Ionia. Newidiodd ddwylo sawl gwaith yn ystod y canrifoedd nesaf. Yn 1922 daeth yn rhan o Dwrci, a gorfodwyd tua miliwn o Roegiaid i adael i ddinas a symud i Wlad Groeg.