J. J. Williams (chwaraewr rygbi)
Cchwaraewr Rygbi'r Undeb o Gymru oedd John James "J. J." Williams MBE (1 Ebrill 1948 – 29 Hydref 2020).[1] Enillodd 19 o gapiau dros Gymru fel asgellwr.
J. J. Williams | |
---|---|
Ganwyd | John James Williams 1 Ebrill 1948 Pen-y-bont ar Ogwr |
Bu farw | 29 Hydref 2020 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb, cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd |
Plant | Rhys Williams |
Gwobr/au | MBE |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Y Barbariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Llanelli, Maesteg RFC, Bridgend Ravens, Clwb Rygbi Cymry Llundain, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig |
Safle | Asgellwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Ganwyd J. J. Williams yn Nantyffyllon ac addysgwyd yn Ysgol Ramadeg Maesteg. Datblygodd yn athletwr penigamp, gan gynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yng Nghaeredin yn 1970 a dod yn bencampwr sprintio Cymru yn 1971. Chwaraeodd rygbi i Ben-y-bont ar Ogwr cyn ymuno â Llanelli yn 1972.
Enillodd ei gap cyntaf i Gymru yn 1973. Ystyrid ef yn un o'r asgellwyr cyflymaf ym myd rygbi, a sgoriodd ddeuddeg cais yn ei 30 gêm i Gymru. Aeth ar daith gyda'r Llewod Prydeinig, gan chwarae mewn pedair gêm brawf ar y daith i Dde Affrica yn 1974 ac mewn tair gêm brawf ar y daith i Seland Newydd yn 1977. Roedd y daith i Dde Affrica yn un o'r rhai mwyaf llwyddiannus yn hanes y Llewod, ac roedd gan J. J. ran fawr yn hyn. Sgoriodd ddau gais yn yr ail brawf ac yna dau eto yn y trydydd.
Yn ddiweddarach rhedodd gwmni peintio masnachol a diwydiannol yn Y Pîl, ger Pen-y-bont ar Ogwr.[2] Roedd hefyd ynghlwm a consortiwm oedd am gynnig cymryd dros Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd.[3] Wedi ymddeol, bu'n sylwebydd achlysurol ar gemau rygbi rhyngwladol a domestig ar gyfer BBC Cymru.[4]
Bywyd personol
golyguRoedd yn briod a Jane ac roedd ganddynt tri o blant - James, Kathryn a Rhys - y tri yn ymwneud ag athletau.[5] Bu farw ei frawd Peter ar 20 Hydref 2020 wythnos cyn ei farwolaeth yntau ar 29 Hydref.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ JJ Williams: Legendary Wales and British and Irish Lions wing dies (en) , BBC Sport, 29 Hydref 2020.
- ↑ JJ Williams – About JJ Williams Archifwyd 5 Ionawr 2009 yn y Peiriant Wayback
- ↑ "Lions great leads Stadium bid" (yn Saesneg). BBC Sport. 6 Hydref 2003. Cyrchwyd 29 December 2012.
- ↑ Un o gewri’r byd rygbi JJ Williams wedi marw yn 72 oed , Golwg360, 29 Hydref 2020.
- ↑ JJ Williams: Wales and British Lions rugby star dies aged 72 (en) , Sky News, 29 Hydref 2020.
- ↑ Famous Welsh rugby town in mourning after the passing of a club legend (en) , WalesOnline, 23 Hydref 2020. Cyrchwyd ar 29 Hydref 2020.