J. R. Jones, Ramoth

gweinidog gyda'r Bedyddwyr

Gweinidog gyda'r Bedyddwyr a sylfaenydd enwad y Bedyddwyr Albanaidd yng Nghymru oedd John Richard Jones, mwy adnabyddus fel J. R. Jones, Ramoth (13 Hydref 1765 - 27 Mehefin 1822). Roedd yn un o bregethwyr mwyaf dylanwadol ei gyfnod.[1]

J. R. Jones, Ramoth
Ganwyd13 Hydref 1765 Edit this on Wikidata
Llanuwchllyn Edit this on Wikidata
Bu farw27 Mehefin 1822 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bywyd a gwaith golygu

Ganed ef ym Mryn Melyn ym mhlwyf Llanuwchllyn, Meirionnydd. Roedd yn aelod o enwad yr Annibynwyr yn Llanuwchllyn, ond trôdd at y Bedyddwyr yn 1788. Ordeiniwyd ef yn 1789, a daeth yn weinidog yn Ramoth, Llanfrothen (canolfan Bedyddwyr Meirion) a'i changhennau. Ystyriid ef yn un o bregethwyr mwyaf blaenllaw y Bedyddwyr.

Dylanwadwyd arno yn fawr gan weithiau Archibald Maclean o'r Alban, ac yn 1798 gadawodd y Bedyddwyr Cymreig a ffurfio ei enwad ei hun, y Bedyddwyr Albanaidd. Bu'n gweinidogaethu i'r enwad newydd weddill ei oes. Cyhoeddodd tri chasgliad o emynau, yn cynnwys ei emynau ei hun, a dau lyfr ar ddysgeidiaeth ei enwad.

Cymerodd ran ym mywyd diwylliannol gogledd-orllewin Cymru fel cerddor, bardd ac athro beirdd. Roedd ei ddisgyblion barddol yn cynnwys Robert Thomas (Ap Vychan), Robert ap Gwilym Ddu a Dewi Wyn o Eifion.Roedd yn un o bregethwyr mwyaf dylanwadol ei gyfnod.[1]

Llyfryddiaeth golygu

Ceir cofiannau iddo gan David Davies (1913) a James Idwal Jones (1966).

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.