J. Tysul Jones
Prifathro a llenor o Gymru oedd John Tysul Jones (7 Mawrth 1902 – 22 Mai 1986).[1][2][3]
J. Tysul Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1902 |
Bu farw | Mai 1986, 1986 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | athro, llenor |
Ar ôl mynychu Ysgol Uwchradd Llandysul, graddiodd mewn Cymraeg o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1923, a derbyniodd MA yn 1959. Ymysg ei gyfeillion yn Aberystwyth yr oedd Waldo Williams (1904-1971) ac Idwal Jones (1895-1937). Bu'n athro Cymraeg ym Merthyr Tudful ac yn Abertawe, yn bennaeth adran yn Llandysul, ac yna'n brifathro Ysgol Uwchradd Fodern Henllan ac Ysgol Uwchradd Castell Newydd Emlyn (1957-67).
Priododd Mair Harford Evans o sir Gaerfyrddin, a chawsant un ferch.
Bu'n olygydd y gyfrol flynyddol Cyfansoddiadau a Beirniadaethau yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu'n olygydd hefyd y cyfrolau Yr Athro Evan James Williams, 1903-1945 (Llandysul, 1971) ac Ar Fanc Siôn Cwilt: Detholiad o Ysgrifau Sarnicol (Llandysul, 1972).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Authority Record: Jones, J. Tysul (John Tysul), 1902-1986", Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 27 Medi 2020
- ↑ England & Wales, Civil Registration Death Index, 1916–2007.
- ↑ England & Wales, National Probate Calendar (Index of Wills and Administrations), 1858–1995.