Jack Abertawe
Ci enwog oedd Jack Abertawe (1930 - Hydref 1937) a defnyddir yr enw "Jack" fel ffugenw ar gyfer trigolion dinas Abertawe, Cymru.
Cred nifer o bobl mai'r rheswm am hyn yw oherwydd y ci enwog o'r un enw. Cred rhai pobl eraill y daw'r ffugenw o'r enw a roddwyd ar forwyr Abertawe, a oedd yn nodedig am eu sgiliau morwrol. Damcaniaeth arall yw fod y glowyr a weithiau mewn pyllau glo cyfagos yn cyfeirio at lowyr Abertawe fel "Jacks" am fod y blychau bwyd wedi'u gwneud o din Abertawe ac fe'u gelwid yn Jacks. Ceir tafarn yn Abertawe o'r enw'r Swansea Jack, fel rhyw fath o deyrnged i'r ci.
Adargi cot-lefn neu adargi cot-rychiog oedd y ci Jack Abertawe fel y gwelir yn y llun ohono gyda'i berchennog ym 1930. Trigai ci yn Noc y Gogledd / ardal Afon Tawe o'r ddinas, gyda'i fesitr William Thomas. Pa bryd bynnag y byddai Jack yn clywed pobl mewn trafferthion yn y doc, arferai blymio i mewn i'r dwr a llusgo'r bobl i'r lan.
Achubodd y ci, Jack, fywyd person am y tro cyntaf ym Mehefin 1931, pan achubodd fywyd bachgen 12 mlwydd oed. Ni adroddwyd yr hanesyn hwn. Rhai wythnosau'n ddiweddarach, achubodd Jack nofiwr arall o'r dociau a hynny gerbron torf o bobl. Ymddangosodd llun ohono yn y papur lleol a rhoddodd y cyngor lleol goler arian iddo. Ym 1936, derbyniodd y wobr 'Ci Dewraf y Flwyddyn' gan bapur newydd y London Star.
Derbyniodd gwpan arian gan Arglwydd Faer Llundain ac ef yw'r unig gi i dderbyn dwy fedal efydd ('y V.C. i gwn') gan y National Canine Defence League (a adwaenir bellach fel Dogs Trust). Dywed hanesion iddo achub 27 o bobl o'r dociau / Afon Tawe yn ystod ei fywyd. Bu farw Jack Abertawe yn Hydref 1937 ar ôl iddo fwyta gwenwyn ar gyfer llygod mawr. Lleolir cofeb iddo, a dalwyd amdano gan goffrau cyhoeddus, ar y promenad yn Abertawe. Yn 2000, enwyd Jack Abertawe yn 'Ci y Ganrif' gan "NewFound Friends" o Fryste sy'n hyfforddi cwn mewn dulliau achub bywydau mewn dwr.