Plentyn dyflwydd oed o Kirkby, ger Lerpwl, a gafodd ei herwgipio, ei arteithio ac yna ei lofruddio oedd James Bulger[nodyn 1] (16 Mawrth 199012 Chwefror 1993).[nodyn 2] Dau fachgen 10 mlwydd oed, Robert Thompson a Jon Venables, wnaeth ei ladd. Tra oedd Bulger â'i fam Denise mewn canolfan siopa, cafodd ei gymryd gan y ddau fachgen a cherddodd gyda nhw am 2.5 filltir. Gwnaethont ei fwrw, rhoi paent yn ei lygaid, gosod batrïau yn ei geg, a thorri ei benglog mewn 10 man. Gosododd Thompson a Venables corff Bulger ar drac rheilffordd mewn ymdrech i wneud i'w farwolaeth edrych fel damwain. Ar ôl hynny torrodd trên ei gorff yn ddwy rhan. Roedd gan ei gorff cymaint o anafiadau, nid oedd modd i batholegwyr ddweud pa anaf yn union a achosodd ei farwolaeth. Gwelodd nifer o bobl eraill y ddau fachgen yn cerdded â Bulger, ond ni wnaethont eu stopio.

James Bulger
GanwydJames Patrick Bulger Edit this on Wikidata
16 Mawrth 1990, 1990 Edit this on Wikidata
Lerpwl, Glannau Merswy Edit this on Wikidata
Bu farw12 Chwefror 1993 Edit this on Wikidata
o blunt trauma Edit this on Wikidata
Lerpwl Edit this on Wikidata

Ar ddechrau'r achos, nid oedd yr heddlu yn disgwyl i'r troseddwyr fod mor ifanc â Thompson a Venables, roeddent yn chwilio am ddrwgdybwyr rhwng 12 a 14 oed. Arddangoswyd llun CCTV o'r bechgyn yn arwain Bulger o'r ganolfan siopa yn y cyfryngau, a llwyddodd rhywun i'w hadnabod a chysylltu â'r heddlu. Arestiwyd Thompson a Venables, a chyhuddodd y ddau fachgen y llall o ladd Bulger. Cawsont eu rhoi ar brawf a'u dedfrydu i 8 mlynedd o garchar. Ceisiodd yr Ysgrifennydd Cartref Michael Howard ymestyn y ddedfryd i 15 mlynedd, ond dyfarnodd y Llys Apêl nad oedd ganddo'r grym i wneud hynnny. Rhyddhawyd y llofruddion yn 2001, gan dderbyn enwau newydd, mewn modd tebyg i ddiogelu tystion. Ym Mawrth 2010 bu rhaid i Jon Venables dychwelyd i'r carchar am dorri amodau ei ryddhad.

Mae mam James Bulger, Denise Fergus, wedi datgan llawer o weithiau ei bod yn dymuno i'r llofruddion aros yn y carchar.

Nodiadau golygu

  1. Cyfeiriodd nifer o adroddiadau'r wasg ato fel "Jamie Bulger", er nad oedd ei deulu yn defnyddio'r enw "Jamie".
  2. Mae'r ffynonellau cynnar yn dweud mai 12 Chwefror a gafodd ei herwgipio a'i lofruddio,[1] [2] Archifwyd 2011-06-05 yn y Peiriant Wayback. [3] Archifwyd 2010-03-11 yn y Peiriant Wayback. [4] [5] [6] [7] ond rhai diweddarach yn dweud 13 Chwefror.[8] Archifwyd 2010-03-04 yn y Peiriant Wayback. [9] [10] [11] [12] [13] [14] [15] [16] Rydym yn cymryd mai'r rhai cynharaf sydd yn gywir, gan eu bod yn agosach at y dyddiad ac felly'n llai tebyg o fod yn anghywir.