James Hook (chwaraewr rygbi)
Chwaraewr Rygbi'r Undeb o Gymru yw James William Hook (ganed 27 Mehefin 1985). Mae'n chwarae i dîm y Gweilch a Chymru
James Hook | |
---|---|
Ganwyd | 27 Mehefin 1985 Port Talbot |
Man preswyl | Port Talbot |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Taldra | 183 centimetr |
Pwysau | 96 cilogram |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, USA Perpignan, Y Gweilch, Gloucester Rugby, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig |
Safle | maswr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Ganed ef ym Mhort Talbot. Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Gyfun Glan Afan. Bu'n chwarae rygbi i dîm Castell Nedd cyn ymuno â'r Gweilch. Enillodd ei le yn y tîm cyntaf yn nhymor 2006-07. Bu'n chwarae dros Gymru ar lefel dan-21, cyn ennill ei gap cyntaf dros Gymru mewn gêm yn erbyn yr Ariannin yn 2006, pan sgoriodd gais.
Yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2007, chwaraeodd Hook ymhob un o gemau Cymru, ond fel canolwr yn hytrach nag yn ei safle arferol fel maswr, lle roedd Stephen Jones yn ddewis cyntaf. Yn ystod Cwpan y Byd 2007, dechreuodd Hook y gêm gyntaf fel maswr, ond Stephen Jones a ffafriwyd yn y safle yma am weddill y gemau.
Yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2008, ef ddechreuodd y gemau yn erbyn Lloegr (pan enwyd ef yn chwaraewr gorau y gêm), yr Alban a'r Eidal yn safle maswr, er i Stephen Jones ddechrau'r gêm yn erbyn Iwerddon, gyda Hook yn dod ar y cae yn ddiweddarach.