Ysgol Gyfun Glan Afan
Ysgol uwchradd gyfun cyfrwng Saesneg ym Mhort Talbot, Castell-nedd Port Talbot oedd Ysgol Gyfun Glan Afan (Saesneg: Glan Afan Comprehensive School). Pennaeth yr ysgol ar hyn o bryd ydy Mrs Susan Handley.
Ysgol Gyfun Glan Afan | |
---|---|
Glan Afan Comprehensive School | |
Arwyddair | A ddioddefws a orfu By striving we succeed |
Sefydlwyd | 1896 |
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Saesneg |
Pennaeth | dim |
Dirprwy Bennaeth | dim |
Lleoliad | Station Road, Port Talbot, Cymru, SA13 1LZ |
AALl | Castell-nedd Port Talbot |
Rhyw | Cydaddysgol |
Llysoedd | Glyndwr, Llewellyn, Rhys, Tudor |
Lliwiau | Coch |
Gwefan | http://www.glanafan.baglanit.org.uk |
Hanes
golyguMae'r ysgol yn dyddio'n ôl i sefydliad ysgol ramadeg sirol ar y safle ym 1896. Newidiwyd yr enw i "Ysgol Gyfun Glanafan" yn ystod yr 1960au, newidiwyd y sillafiad i "Glan Afan" yn ddiweddarach. Roedd yr ysgol yn derbyn disgyblion hyd 18 oed tan yr 1980au, pan gaewyd y chweched ddosbarth gyda'r myfyrwyr yn mynychu Coleg Afan yn hytrach.
Cyn-ddisgyblion o nod
golygu- Moelwyn Merchant (1913-1997), bardd, nofelydd a cherflunydd
- Clive Jenkins (1926-1999), arweinydd undeb llafur ac awdur
- David Carpanini (g. 1946), arlunydd
- Geraint Griffiths (ganwyd 1949) - canwr
- Richard Hibbard (ganwyd 1983) - chwaraewr rygbi
- James Hook (ganwyd 1985) - chwaraewr rygbi
- Clive Jenkins (196–1999) - arweinydd undeb llafur
- Gareth Jones (ganwyd 1960) - arweinydd corau
- Michael Sheen (ganwyd 1969) - actor
- Bennett Arron awdur a digrifwr stand-yp
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol yr ysgol Archifwyd 2007-07-03 yn y Peiriant Wayback