James Howell
Llenor ac hanesydd yn yr iaith Saesneg o Gymru oedd James Howell (tua 1594 – 1666).[1]
James Howell | |
---|---|
Ganwyd | 1594 Llangamarch |
Bu farw | 1666 Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, hanesydd, llenor |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the 1628-29 Parliament |
Mae'n debyg iddo gael ei eni yn Abernant, Sir Gaerfyrddin. Astudiodd yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Daeth yn aelod seneddol dros Richmond, Swydd Efrog, yn 1627.
Cafodd ei garcharu yn y cyfnod 1643–51, naill ai am iddo fethu talu ei ddyled neu am ei farn o blaid y Brenhinwyr yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr. Dechreuodd ysgrifennu yn ystod ei gyfnod yng Ngharchar y Fflyd.
Cyhoeddodd ei Epistolae Ho-Elianae, casgliad o draethodau ar ffurf llythyron, mewn pedair cyfrol (1645–55). Mae'r epistolau hyn yn cofnodi sawl digwyddiad o'r cyfnod, ond nid ydynt yn llwyr ddibynadwy gan eu bod yn llawn llên-ladrad a ffug fanylion. Cafodd Howell ei benodi'n hanesydd y brenin yn 1660 yn sgil yr Adferiad. Yn ogystal, cyhoeddodd gyfieithiadau, geiriaduron, llyfrau taith, gweithiau dychmygol, a phamffledi ar bynciau gwleidyddol. Bu farw yn Llundain yn 1666.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) James Howell. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Mehefin 2019.