Agor y brif ddewislen

Aber-nant, Sir Gaerfyrddin

(Ailgyfeiriad oddi wrth Abernant, Sir Gaerfyrddin)

Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Aber-nant[1] (hefyd: Abernant). Saif ar ffordd gefn, saith milltir i'r gogledd-orllewin o dref Caerfyrddin.

Aber-nant, Sir Gaerfyrddin
Math Cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth 297 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Arwynebedd 2,204.79 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 51.8814°N 4.4167°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000490 Edit this on Wikidata
Cod post SA33 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Angela Burns (Ceidwadwyr)
AS/au Simon Hart (Ceidwadwr)

Cysegrwyd yr eglwys i'r Santes Lucia, a cheir cofnod ati yn 1197 sy'n cyfeirio at gysylltiad a Phriordy Sant Teilyddog. Mae mynwent yr eglwys o faint anarferol, dros bedair erw a hanner, gyda nant yn rhedeg trwyddi. Gwaharddwyd claddu ar ochr ddwyreiniol y nant ers yr 19g pan gladdwyd cannoedd o bobl tref Caerfyrddin yno adeg y pla.

Gerllaw mae Castell Dwyran, lle cafwyd hyd i garreg goffa, yn dwyn yr arysgrif Ladin Memoria Voteporigis Protictoris a'r enw 'Votecorigas' mewn llythrennau Ogam; yn ôl pob tebyg carreg fedd y Vortiporius (Gwrthefyr) sy'n cael ei gondemnio gan Gildas.

Cynrychiolir Aber-nant yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Angela Burns (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw Simon Hart (Ceidwadwr).[2][3]

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Aber-nant, Sir Gaerfyrddin (pob oed) (297)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Aber-nant, Sir Gaerfyrddin) (150)
  
51.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Aber-nant, Sir Gaerfyrddin) (172)
  
57.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Aber-nant, Sir Gaerfyrddin) (42)
  
34.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

CyfeiriadauGolygu

  1. Adroddiad Enwau Lleoedd Cyngor Sir Gaerfyrddin
  2. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013

Dolenni allanolGolygu