Chwaraewr Rygbi'r undeb Cymreig ydy James Peter Robinson (ganwyd 7 Ebrill 1980, Penarth) sy'n chwarae yn safle canolwr i dîm Agen a Thîm Cenedlaethol Cymru. Mynychodd Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf ynghyd â'i frawd ifengaf Nicky Robinson. Mae'n adnabyddus am ei amddiffyn, ei gyflymder a'i allu i guro amddiffynwyr. Mynychodd Jamie Wyke College ac enillodd y llysenw 'Mole' (Cymraeg: Twrch Ddaear).

Jamie Robinson
Enw llawn Jamie Peter Robinson
Dyddiad geni (1980-04-07) 7 Ebrill 1980 (43 oed)
Man geni Penarth
Taldra 5 ft 10 in (1.78 m)
Pwysau 15 st 0 lb (95 kg)
Ysgol U. Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf
Prifysgol Prifysgol Morgannwg (Prifysgol De Cymru erbyn hyn)
Perthnasau nodedig Nicky Robinson
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa'n chwarae
Safle Canolwr
Clybiau proffesiynol
Blynydd. Clybiau Capiau (pwyntiau)
1999–2003
2003-2009
2009–2010
2010-2013
Clwb Rygbi Caerdydd
Gleision Caerdydd
Toulon
Agen
104
108
16
44
(155)
(145)
(5)
(10)
Timau cenedlaethol
Blynydd. Clybiau Capiau
2001-2007 Tîm saith bob ochr Cymru 23 (35)

Chwaraeodd dros dîm o dan 19, i dan 21 a Cymru "A" a chwaraeodd yng Nghwpan y Byd Ieuenctid yn 1999 ynghyd ag aelod arall o'r Gleision, Rhys Williams, cyrhaeddodd Cymru y rownd derfynol a cholli allan i Seland Newydd. Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn erbyn Siapan yn 2001 gan sgorio cais. Cadwodd ei le yn y tîm cenedlaethol tan iddo gael ei anafu.

Bu i ffwrdd o'r gêm am gyfnod hir oherwydd anaf iw ben-glin yn nechrau tymor rygbi 2004-2005, dychwelodd i'r gêm yng nghanol tymor 2005-2006. Dychwelodd i'w gyflwr gorau gan ennill le ar y tîm cenedlaethol yn chwarae yn erbyn yr Ariannin gan sgorio cais. Hwn hefyd oedd y tro cyntaf iddo ef a'i frawd Nicky Robinson, chwarae ochr yn ochr dros Gymru. Mae Jamie hefyd yn dal record, ynghyd â Kevin Morgan, am y nifer mwyaf o geisiadau a sgorwyd mewn tymor Cynghrair Geltaidd, sgoriodd y ddau 12 cais mewn tymor. Mae Jamie yn nôl yn nhîm cymru ar gyfer tymor Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2007.