Mae Jamie Hamilton Wallis (ganwyd 2 Mehefin 1984) [1] yng ngwleidydd Plaid Geidwadol Prydain sydd wedi bod yn Aelod Seneddol (AS) Pen-y-bont ar Ogwr yng Nghymru ers 2019, gan drechu Madeleine Moon o Lafur yn yr etholiad cyffredinol 2019.[2]

Jamie Wallis
Ganwyd2 Mehefin 1984 Edit this on Wikidata
Betws Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 58ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata

Ganwyd Wallis yn Bettws. Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Gatholig St Robert yn Aberkenfig, Ysgol St Clare ym Mhorthcawl, Ysgol Brynteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac Eglwys Crist, Rhydychen.[3] Cafodd doethuriaeth mewn Astrobioleg gan Brifysgol Caerdydd.[4]

Gyrfa busnes golygu

Yn ol Buzzfeed roedd Wallis yn gyd-berchennog gwefan 'dadi siwgr', "a oedd yn cynnig perthynas ariannol i fyfyrwyr gyda 'noddwyr' cyfoethog". Canfu Buzzfeed ei fod wedi bod yn gyfarwyddwr ac yn gyfranddaliwr rhiant-gwmni'r wefan.[5] Galwodd yr Aelod Seneddol Llafur Jess Phillips am gael gwared â Wallis.[6]

Bywyd personol golygu

Ar 28 Tachwedd 2021, gaeth Wallis ei harestio ar amheuaeth o yrru tra'n anaddas ar ôl damwain car yn Llanfleiddan, Bro Morgannwg, lle mae e'n byw.[7] Ar 28 Ebrill 2022, gaeth Wallis ei gyhuddo o fethu â stopio ar ôl y ddamwain car yn Llanfleiddan.[8]

Ar 30 Mawrth 2022, daeth Wallis allan fel person trawsryweddol, gan ddod yr Aelod Seneddol cyntaf i ddod allan fel trawsryweddol yn San Steffan.[9][10] Yn ei ddatganiad cyhoeddus, dywedodd Wallis ei fod am barhau defnyddio'r rhagenw personol "ef", "ar hyn o bryd".[11] Roedd ei ddatganiad cyhoeddus hefyd yn dweud fod Wallis wedi cael ei flacmêlio yn Ebrill 2020 am ei hunaniaeth rhywiol a cafodd ei dreisio ym Medi 2021.[9]

Ar 11 Gorffennaf 2022 mewn achos llys yn Llys Ynadon Caerdydd, cafwyd Wallis yn euog o fethu â stopio ac adrodd am ddamwain, gan adael ei gar mewn safle peryglus, ond ei glirio o yrru heb ofal a sylw dyladwy. Cafodd ddirwy o £2,500 a'i wahardd rhag gyrru am chwe mis. Dywedodd y barnwr nad oedd ei esboniad yn gredadwy.[12]

Sylwadau ar Liz Truss golygu

Cefnogodd Wallis Liz Truss fel arweinydd y blaid, ond ym mis Hydref 2022 dywedodd y dylai ymddiswyddo. Honnodd fod ASau Ceidwadol eraill wedi defnyddio materion trawsryweddol fel arf yn ei erbyn.[13]

Dywedodd Suella Braverman nad yw hi'n ystyried galw person traws wrth ei hen enw yn fwriadol yn drosedd casineb.[14]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Madeleine Moon
Aelod Seneddol dros Pen-y-bont ar Ogwr
2019 – presennol
Olynydd:
presennol

Cyfeiriadau golygu

  1. "Jamie Wallis". Who Can I Vote For? (yn Saesneg). Cyrchwyd 19 Ionawr 2019.
  2. "Election 2019 - Bridgend". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 13 Rhagfyr 2019.
  3. Christ Church, Oxford (2007). Christ Church 2006 (yn Saesneg). Oxford: Christ Church, Oxford. t. 133.
  4. "The New Boys and Girls No. 5: Jamie Wallis" (yn en). Private Eye (1516): 12. 21 Chwefror 2020.
  5. Wickham, Alex. "A New Tory MP Claimed He Wasn't Involved With A "Sugar Daddy" Service His Website Promoted. He Actually Co-Owned It". BuzzFeed. Cyrchwyd 13 Ionawr 2020.
  6. "Jess Phillips urges Tories to suspend new MP linked to 'sugar daddy' website". inews (yn Saesneg). Cyrchwyd 13 Ionawr 2020.
  7. "Bridgend MP arrested on suspicion of driving while unfit". BBC News (yn Saesneg). 19 Rhagfyr 2021. Cyrchwyd 19 Rhagfyr 2021.
  8. "Cyhuddo AS Pen-y-bont o fethu â stopio ar ôl damwain car". BBC News. 28 Ebrill 2022. Cyrchwyd 28 Ebrill 2022.
  9. 9.0 9.1 "AS 'eisiau bod yn drawsryweddol ac wedi cael fy nhreisio'". BBC Cymru Fyw. 30 Mawrth 2022. Cyrchwyd 30 Mawrth 2022.
  10. "Statement from Jamie Wallis MP – 30th March 2022" (yn Saesneg). Jamie Wallis MP. 30 Mawrth 2022. Cyrchwyd 30 Mawrth 2022.
  11. "Follow-up statement from Jamie Wallis MP" (yn Saesneg). Jamie Wallis MP. 30 Mawrth 2022. Cyrchwyd 30 Mawrth 2022.
  12. "Jamie Wallis: MP found guilty of driving offences" (yn Saesneg). BBC Wales. 11 Gorffennaf 2022. Cyrchwyd 11 Gorffennaf 2022.
  13. "Aelod Seneddol Ceidwadol Pen-y-bont ar Ogwr yn galw am ymddiswyddiad Liz Truss". Golwg360. 16 Hydref 2022. Cyrchwyd 18 Hydref 2022.
  14. Nadeem Badshah (16 Hydref 2022). "Jamie Wallis accuses fellow Tory MPs of exploiting trans issues during contest for PM". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 18 Hydref 2022.