Suella Braverman
Gwleidydd a bargyfreithiwr Prydeinig yw Sue-Ellen Cassiana " Suella " Braverman QC AS (ganed Fernandes; ganwyd 3 Ebrill 1980). Bu'n Ysgrifennydd Cartref o 6 Medi 2022 i 19 Hydref 2022, ac eto o 25 Hydref 2022 i 13 Tachwedd 2023. Roedd hefyd yn Dwrnai Cyffredinol Cymru a Lloegr rhwng 2020 a March 2021 ac o Fedi 2021 i 2022. Mae hi wedi bod yn Aelod Seneddol (AS) dros Fareham ers 2015.[1]
Suella Braverman | |
---|---|
Ganwyd | Sue-Ellen Cassiana Fernandes 3 Ebrill 1980 Harrow |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bargyfreithiwr, gwleidydd |
Swydd | Aelod o Senedd 57 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 56 y Deyrnas Unedig, Parliamentary Under-Secretary of State for Exiting the European Union, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Aelod o 58ain Senedd y Deyrnas Unedig, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Twrnai Cyffredinol Lloegr a Chymru, Twrnai Cyffredinol Lloegr a Chymru, Ysgrifennydd Cartref, Ysgrifennydd Cartref, Aelod o 59ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Gwefan | https://www.suellabraverman.co.uk/ |
Mae Braverman yn aelod o’r Blaid Geidwadol. Bu’n gadeirydd y Grŵp Ymchwil Ewropeaidd rhwng 19 Mehefin 2017 a 9 Ionawr 2018. Rhoddwyd "QC" iddi ar ôl ei phenodiad fel Twrnai Cyffredinol Cymru a Lloegr ac Adfocad Cyffredinol Gogledd Iwerddon ym mis Chwefror 2020, ar ôl peidio â “ chymeryd sidan ” ymlaen llaw [2].[3]
Cafodd Braverman ei geni yn Harrow, Llundain Fwyaf, a'i magu yn Wembley[4] yn ferch i Christie ac Uma Fernandes, o dras Indiaidd,[5] [6] a oedd wedi ymfudo i Brydain yn y 1960au o Kenya a Mauritius .
Cafodd Braverman ei addysg yn Ysgol Gynradd Uxendon Manor yn Brent a'r Ysgol preifat Heathfield, Pinner [4][7] Darllenodd y gyfraith yng Ngholeg y Breninesau, Caergrawnt.
Yn 2022 bu'n ymgeisydd aflwyddiannus yn yr etholiad ar gyfer arweinydd newydd y blaid Geidwadol.[8] Penodwyd Braverman yn Ysgrifennydd Cartref gan Liz Truss[9] ond ymddiswyddodd ar ôl chwe wythnos.[10]
Ar 13 Tachwedd 2023, diswyddwyd Braverman o'i swydd fel Ysgrifennydd Cartref gan y prif weinidog Rishi Sunak. Roedd hi wedi ysgrifennu erthygl papur newydd oedd i'w gweld yn tanseilio'r heddlu.[11][12]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Syal, Rajeev; editor, Rajeev Syal Home affairs (2022-10-25). "Outcry over Suella Braverman's return as home secretary". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2023-11-13.CS1 maint: extra text: authors list (link)
- ↑ Joshua Rozenberg QC (November 2020). "Silk but no silken tongue". The Critic (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Mehefin 2022. Cyrchwyd 12 Mehefin 2022.
- ↑ Joshua Rozenberg (17 February 2020). "Jury's out for the new attorney general". The Critic. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Ebrill 2021. Cyrchwyd 13 Mehefin 2022.
- ↑ 4.0 4.1 "About Suella" (yn Saesneg). Suella Braverman. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Mawrth 2022. Cyrchwyd 8 Ebrill 2017.
- ↑ "Supplement on Suella Fernandes". Goan Voice UK (yn Saesneg). 2003–2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Mawrth 2022. Cyrchwyd 11 Chwefror 2018.
- ↑ Brogan, Benedict (14 Gorffennaf 2003). "Supplement on Uma Fernandes". Goan Voice UK (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Mawrth 2022. Cyrchwyd 11 Chwefror 2018.
- ↑ McGauran, Ann (2 Gorffennaf 2015). "Who's on the new education select committee?". Schools Week (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Gorffennaf 2016. Cyrchwyd 8 Ebrill 2017.
- ↑ Joshua King (14 Gorffennaf 2022). "Conservative Leadership: Suella Braverman eliminated as Tory Prime Minister contenders whittled down to five". The Scotsman (yn Saesneg).
- ↑ Morris, Seren (6 Medi 2022). "Who is Suella Braverman? Leadership rival tipped for Home Secretary". Evening Standard (yn Saesneg). Cyrchwyd 6 Medi 2022.
- ↑ "Suella Braverman to depart as Home Secretary after just six weeks in the job". ITV News (yn Saesneg). 19 Hydref 2022. Cyrchwyd 19 Hydref 2022.
- ↑ Peter Walker (13 Tachwedd 2023). "Suella Braverman sacked as home secretary after article criticising police". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 13 Tachwedd 2023.
- ↑ "Suella Braverman wedi'i diswyddo: "Beth gymerodd mor hir?"". Golwg360. 2023-11-13. Cyrchwyd 2023-11-13.