Janet Achurch
Roedd Janet Achurch (17 Ionawr 1864 - 11 Medi 1916) yn actores lwyfan ac actor-reolwr o Loegr. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn Llundain ym 1883. Chwaraeodd lawer o rolau Shakespeare ond mae'n fwyaf adnabyddus fel arloeswr rolau mawr yng ngweithiau Ibsen a George Bernard Shaw. Ei rôl fwyaf nodedig oedd fel Nora yn y cynhyrchiad Saesneg cyntaf o Et Dukkehjem (Tŷ Dol) (1889). Roedd hi'n briod â'r actor Charles Charrington.[1]
Janet Achurch | |
---|---|
Ganwyd | Janet Sharp 17 Ionawr 1863, 1864 Manceinion |
Bu farw | 11 Medi 1916 Ventnor |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | actor |
Priod | Charles Charrington |
Cefndir
golyguEi enw genedigol oedd Janet Sharp ac fe aned yn Chorlton-on-Medlock, Manceinion, bu farw ei mam yn ystod ei genedigaeth a chafodd ei magu gan ei thad William Prior Sharp, asiant yswiriant. Roedd ei nain a thaid mamol, James a Mary Achurch, yn rheoli'r Theatre Royal ym Manceinion. Daeth yn actores ar ôl dod â’i haddysg i ben ym 1881 ac ymuno â chwmni stoc Sarah Thorne ym Margate.[2]
Gyrfa
golyguRoedd ymddangosiad cyntaf Janet Achurch ar y llwyfan ym 1883 yn Theatr yr Olympic yn Llundain yn y ffars Betsy Baker. O 1883 hyd ei hymddeoliad ym 1913, ymddangosodd mewn ystod eang o rolau, yn Llundain, gan deithio o amgylch Lloegr, yn ogystal ag Awstralia, Seland Newydd, Tasmania, India a'r Aifft. Bu yn rhan o gwmni Frank Benson bu'n gyfrifol am Ŵyl Shakespeare o 1886 i 1916. Chwaraeodd roliau merched cryfaf Shakespeare gan gynnwys yr Arglwyddes Macbeth, Portia, Desdemona a Beatrice.[3] Ym 1889 cymerodd reolaeth ar y Novelty Theatre, Llundain. Y flwyddyn honno chwaraeodd un o'i rolau mwyaf nodedig fel Nora yn y première Seisnig o Et Dukkehjem (Tŷ Dol) gan Ibsen Fe wnaeth hyn wella ei enwogrwydd ei hun yn ogystal â safle Ibsen yn Lloegr.
Ysgrifennodd George Bernard Shaw rôl deitl ei ddrama Candida gyda hi mewn golwg ar gyfer y brif ran a byddai ond yn caniatáu i'r ddrama gael ei pherfformio pe bai Achurch yn chwarae rôl y teitl, a ddigwyddodd ym 1897 yn Theatr Ei Mawrhydi. Ym 1889, yn ystod ei thaith gyda'i gŵr, yr actor Charles Charrington yn yr Aifft, esgorodd ar blentyn marw-anedig yn Cairo, a bu bron â marw ei hun yn ystod yr enedigaeth. Arweiniodd ei hymgais i liniaru poen meddyliol y digwyddiad at ddibyniaeth ar forffin.
Ymddeoliad a marwolaeth
golyguRoedd ei pherfformiad olaf ym 1913 fel Merete Bery yn The Witch gan Wiers-Jenssen. Oherwydd blinder a salwch, cyhoeddodd ei hymddeoliad cyn gynted ag y daeth y cynhyrchiad i ben. Bu farw o "wenwyn morffin" ar 11 Medi 1916, yn 52 mlwydd oed, yn Ventnor, Ynys Wyth.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Achurch, Janet (real name Janet Sharp) (1863-1916), actress. Oxford Dictionary of National Biography. Adalwyd 4 Gorffennaf 2020
- ↑ Cengage Encyclopedia Achurch, Janet (1864–1916) adalwyd 5 Gorffennaf 2020
- ↑ Playing Shakespeare’s and Ibsen’s heroines: the career of Janet Achurch adalwyd 5 Gorffennaf 2020