Janet Ryder
Gwleidydd Seisnig yw Janet Ryder (ganwyd 21 Mehefin 1955). Etholwyd yn Aelod Cynulliad dros Rhanbarth Gogledd Cymru yn etholiad cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999. Hi oedd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros Addysg a Dysgu Gydol Oes yn ail Lywodraeth Cymru.
Janet Ryder | |
Cyfnod yn y swydd 6 Mai 1999 – 6 Mai 2011 | |
Geni | Sunderland, Tyne a Wear | 21 Mehefin 1955
---|---|
Plaid wleidyddol | Plaid Cymru |
Galwedigaeth | Athrawes |
Cafodd ei geni yn Sunderland a'i haddysg yn Newcastle upon Tyne. Daeth i fyw i Gymru yn 1990 a dysgu Cymraeg. Bu'n athrawes ac yn Faer Rhuthun a chyn ei hethol i'r Cynulliad Cenedlaethol roedd yn Gynghorydd Sir Ddinbych (1995-1999).
Dolenni allanolGolygu
- Gwefan swyddogol Janet Ryder Archifwyd 2008-11-19 yn y Peiriant Wayback.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: sedd newydd |
Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru 1999 – 2011 |
Olynydd: Llyr Huws Gruffydd |