Jeannette Altwegg
Roedd Jeannette Wirz CBE (g. Altwegg; 8 Medi 1930 – 18 Mehefin 2021) yn sglefriwr ffigwr a gystadlodd yn senglau merched dros y Deyrnas Unedig.[1] Pencampwr Ewropeaidd dwbl (1951 a 1952) Pencampwr y Byd 1951 a Pencampwr Olympaidd 1952 oedd hi.[2] Enillodd fedal efydd Olympaidd 1948.
Jeannette Altwegg | |
---|---|
Ganwyd | 8 Medi 1930 Mumbai |
Bu farw | 18 Mehefin 2021 Bern |
Dinasyddiaeth | Lloegr Y Swistir |
Galwedigaeth | ice skater, chwaraewr tenis, sglefriwr ffigyrau |
Gwobr/au | CBE |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig |
Ganwyd Altwegg ym Mumbai (Bombay), India, yn ferch i fam o Brydain a thad o'r Swistir. Cafodd ei magu yn Lerpwl.[3] Roedd hi'n chwaraewr tenis cystadleuol, gan gyrraedd y rowndiau terfynol iau yn Wimbledon ym 1947 cyn rhoi'r gorau i'r gamp i ganolbwyntio ar sglefrio.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Jeannette Altwegg" (yn Saesneg). International Olympic Committee.
- ↑ Richard Williams (21 February 2014). "Sochi 2014: Britain used to be good at ice skating – what went wrong?". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2021.
- ↑ Elaine Hooper. "Jeanette Altwegg, CBE". British Ice Skating (yn Saesneg). Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2021.