Jeff Banks
Dyluniwr ffasiwn o Gymru yw Jeff Banks (ganed 17 Mawrth 1943 yng Nglyn Ebwy), sy'n gyfrifol am ddylunio dillad dynion a merched yn ogystal a gemwaith a dodrefn meddal.
Jeff Banks | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
17 Mawrth 1943 ![]() Glynebwy ![]() |
Dinasyddiaeth |
y Deyrnas Unedig, Cymru ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
dylunydd ffasiwn ![]() |
Gwobr/au |
CBE ![]() |
Gwefan |
https://jeffbanks.co.uk/ ![]() |
BywgraffiadGolygu
Ganed yn ne Cymru, yn fab i weithiwr metel dalen, gadawodd ei dad ei fam pan oedd Jeff yn wyth oed, a phenderfynodd ei fam symud i Lundain oherwydd hyn.[1]
Cafodd gynnig ysgoloriaeth o ysgol annibynnol ramadeg, Coleg Sant Dunstan yng Nghatford, De Llundain, ond ni allai ei fam fforddio'r wisg ysgol felly cymerodd Jeff rownd yn dosbarthu paraffin mewn berfa - erbyn iddo droi'n 13 oed, roedd yn cyflogi dyn i yrru lorri tancer i ddosbarthu. Gwerthodd y busnes pan oedd yn 15 oed.[1]
Anogwyd athro iddo astudio celf a dod yn beintiwr, ond yn ystod ei flwyddyn gyntaf yn Ysgol Gelf Camberwell, Llundain, sylweddolodd nad oedd ei sgiliau'n ddigon eang, felly newidiodd ei astudiaethau i ddylunio mewnol ac yna tecstilau yng Ngholeg Arlunio a Dylunio Sant Martin, ac yn ddiweddarach yn Ysgol Newydd Dylunio Parson yn Efrog Newydd.[2]
Mae gan Banks radd anrhydedd o Brifysgol Lancaster, Dwyrain Llundain, Newcastle & Northumbria, Coleg Prifysgol Celf Creadigol,[3] ac o Brifysgol San Steffan, ac mae hefyd yn Ddoethur yn y Celfyddydau.[2]
GyrfaGolygu
Yn 1964, gyda arian wedi ei achub o'i fusnes paraffin ac wedi i'w dad forgeisi ei gartref, agorodd Banks y boutique Clobber yn Llundain,[1] a oedd yn gwerthu ei ddyluniadau ei hun yn ogystal â gwaith dylunwyr eraill. Roedd yn llwyddiannus iawn, felly yn 1969, lansiodd ei label ffasiwn ei hun.
Bywyd PersonolGolygu
Mae Banks wedi priodi ddwywaith. Y tro cyntaf i seren bop Sandie Shaw, ac wedyn i Sue Mann, model ac arlunydd colur.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ 1.0 1.1 1.2 My Way: Fashion designer Jeff Banks on how to get on at work The Independent - 19 Gorffennaf 2007
- ↑ 2.0 2.1 Bywgraffiad Jeff Banks BBC Wales Arts & Entertainment's
- ↑ Jeff Banks - Fashion Designer University of the Creative Arts