Chwaraewr pêl-droed Americanaidd, actor, ac ymgyrchydd dros hawliau sifil Affricanaidd-Americanaidd oedd James Nathaniel "Jim" Brown (17 Chwefror 193618 Mai 2023). Chwaraeodd yn rhedwr i'r Cleveland Browns o 1957 i 1965, a fe'i ystyrir yn un o'r chwaraewyr goreuaf yn hanes y gêm.[1]

Jim Brown
Jim Brown, yn ei wisg Cleveland Browns, ar gerdyn casgladwy o 1959.
Ganwyd17 Chwefror 1936 Edit this on Wikidata
St. Simons Edit this on Wikidata
Bu farw18 Mai 2023 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Syracuse
  • Manhasset Secondary School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, chwaraewr pêl-droed Americanaidd, actor ffilm, chwaraewr pêl-fasged, cyfarwyddwr teledu Edit this on Wikidata
Arddully Gorllewin Gwyllt Edit this on Wikidata
Taldra188 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau105 cilogram Edit this on Wikidata
Gwobr/auUSILA Second Team All-American, USILA First Team All-American Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auSyracuse Orange football, Syracuse Orange men's basketball, Syracuse Orange men's lacrosse Edit this on Wikidata
Saflerunning back Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata

Ganed ef yn St. Simons, bar-ynys ar arfordir Glynn County yn nhalaith Georgia, de Unol Daleithiau America. Symudodd i fyw gyda'i fam yn Long Island, Efrog Newydd, pan oedd yn wyth oed, ac yn yr uwchysgol bu'n rhagori mewn sawl mabolgamp: pêl-fasged, pêl-fas, lacrós, rhedeg trac, a phêl-droed Americanaidd.[2] Cafodd ei dderbyn i Brifysgol Syracuse ym 1953, ac er iddo ddioddef hiliaeth fel un o'r ychydig o fyfyrwyr croenddu, ymddisgleiriodd ar y maes ac yn ei flwyddyn olaf enillodd anrhydeddau "All-American" ym mhêl-droed Americanaidd a lacrós.[3]

Derbyniwyd Brown i'r Cleveland Browns, un o dimau'r Gynghrair Bel-droed Genedlaethol (NFL), ym 1957. Safai 6'2" (1.88 m) a phwysai 232 lbs (105 kg), ac o'r cychwyn enillodd enw fel rhedwr chwim ac anorthrech a allai ennill y blaen ar wrthwynebwyr a gwrthsefyll eu ceisiau i'w daclo. Yn ei dymor cyntaf, yn Nhachwedd 1957, torrodd y record am ruthro'r nifer fwyaf o lathenni mewn un gêm (237), a chyflawnodd yr union nifer honno o lathenni eto yn Nhachwedd 1961. Yn ystod pob un o'i naw tymor fel chwaraewr proffesiynol, ac eithrio'r flwyddyn 1962, Brown oedd y prif chwaraewr yn yr holl NFL yn nhermau llathenni a ruthrwyd. Erbyn diwedd ei yrfa, sgoriodd Brown 126 o loriadau, 106 ohonynt drwy ruthro, a rhedodd 12,312 o lathenni mewn 2,359 o ymgeisiau o ruthro, gyda chyfarteledd o 5.22 llath. Cyfanswm ei ruthradau a'i dderbyniadau o basiau oedd 14,811 llath, a ni churwyd y ddwy record honno nes Walter Payton, un o'r Chicago Bears, ym 1984.[3] Cafodd ei ddethol yn Chwaraewr Gwerthfawrocaf (MVP) yr NFL teirgwaith.[4]

Yn 30 oed, ymddeolodd Brown o'i yrfa chwaraeon i fod yn actor. Perfformiodd mewn nifer o ffilmiau acsiwn ac antur, gan gynnwys y ffilm ryfel The Dirty Dozen (1967) a lluniau'r Gorllewin Gwyllt megis 100 Rifles (1969) ac El Condor (1970), ac yn y 1970au ymddangosodd mewn sawl esiampl o'r genre blaxploitation, gan gynnwys Slaughter (1972) a Three the Hard Way (1974). Yn ddiweddarach, cafodd fân-rannau mewn ffilmiau comedi, er enghraifft Mars Attacks! (1996) a She Hate Me (2004). Ymddangosodd yn fynych ar y teledu hefyd, ar sioeau sgwrs ac fel actor gwadd mewn rhaglenni heddlu ac acsiwn megis CHiPs, T. J. Hooker, a The A-Team.

Yn ystod oes y Mudiad Hawliau Sifil, Brown oedd un o'r ychydig o fabolgampwyr proffesiynol i siarad yn gyhoeddus am bwnc hil. Ym 1966 sefydlodd yr Undeb Economaidd Diwydiannol Negroaidd (yn ddiweddarach yr Undeb Economaidd Croenddu; BEU) i hyrwyddo a chefnogi busnesau a berchenogir gan bobl dduon ac i fuddsoddi mewn cymdogaethau a chymunedau'r Americanwyr Affricanaidd. Fel un o "Uwchgynhadledd Cleveland" ym Mehefin 1967, lleisiodd ei gefnogaeth i Muhammad Ali wedi iddo wrthod cael ei alw i'r fyddin. Ym 1988 sefydlodd y rhaglen Amer-I-Can i gefnogi'r ieuenctid du, yn enwedig aelodau gangiau a charcharorion, drwy ddysgu sgiliau bywyd a darparu cyngor iddynt i gadw draw o drais a thor-cyfraith. Fel rhan o'r gwaith hwn, ym 1992, llwyddodd Brown i gyflafareddu cadoediad rhwng gangiau'r Crips a'r Bloods yn Los Angeles.

Priododd Jim Brown â Sue Jones ym 1959, a chawsant dri phlentyn cyn iddynt ysgaru ym 1972. Cyhoeddwyd ei hunangofiant, Out of Bounds (a gyd-ysgrifennwyd â Steve Delsohn), ym 1989. Priododd am yr eildro, â Monique Gunthrop, ym 1997, a chawsant ddau blentyn. Cyhuddwyd Brown sawl gwaith yn ystod ei oes o ymosod ar ferched, gan gynnwys ymgais i lofruddio a thrais rywiol. Fodd bynnag, ni châi erioed yn euog o drosedd difrifol. Aeth i'r carchar am dri mis yn 2002 wedi iddo fandaleiddio car ei wraig a gwrthod cydymffurfio ag amodau ei brofiannaeth. Rhyddhawyd ffilm ddogfen amdano, Jim Brown: All-American (2002), a gyfarwyddwyd gan Spike Lee. Cafodd Brown ei ynydu i'r Neuadd Enwogion Pêl-droed Proffesiynol ym 1971, i Neuadd Enwogion Lacrós yr Unol Daleithiau ym 1984, ac i Neuadd Enwogion Pêl-droed Coleg ym 1995, a chodwyd cerfluniau ohonno yn ei hen brifysgol yn Syracuse, Efrog Newydd, a thu allan i stadiwm y Browns yn Cleveland, Ohio. Bu farw Jim Brown yn ei gartref yn Los Angeles, Califfornia, yn 87 oed.[2]

Ffilmyddiaeth

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) "Jim Brown, one of football's greatest ever, dies at 87", ESPN (19 Mai 2023). Archifwyd o'r dudalen wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 16 Awst 2023.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Richard Goldstein, "Jim Brown, Football Great and Civil Rights Champion, Dies at 87", The New York Times (23 Mai 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 16 Awst 2023.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) Jim Brown. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Awst 2023.
  4. (Saesneg) Chloe Kim, "Jim Brown: Legendary NFL running back dead at 87", BBC (19 Mai 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 16 Awst 2023.