Gêm a chwaraeir gyda phêl yw pêl-fas (Saesneg: baseball). Ystyrir mai dyma'r gêm genedlaethol yn yr Unol Daleithiau. Mae hefyd yn boblogaidd yn Japan, Canada, De Corea, Taiwan, Ciwba, Awstralia, Mecsico, Nicaragwa, Panama, Puerto Rico, De Affrica, yr Iseldiroedd, Gweriniaeth Dominica, yr Eidal a Feneswela.

Maes pêl fas Wrigley Field yn Chicago, Illinois

Chwaraeir y gêm rhwng dau dîm o naw person yr un. Y nod yw taro'r bêl gyda'r bat a rhedeg i gyrraedd cynifer ag sydd modd o'r basau nes cyrraedd yn ôl i'r bas cychwynnol. Y tîm sy'n llwyddo i wneud hyn fwyaf o weithiau sy'n fuddugol.

Datblygodd y gêm fodern yn yr Unol Daleithiau, er bod ansicrwydd ynghylch ei gwreiddiau. Mae traddodiad i Abner Doubleday ei dyfeisio yn Cooperstown, Efrog Newydd, ym 1839, er nad oes prawf o hyn. Ceir llawer o enghreifftiau cynharach o'r enw Base ball. Ffurfiwyd y clwb pêl-fas cyntaf ym 1842 yn Ninas Efrog Newydd, y Knickerbocker Base Ball Club.

Mae ffurf o'r gêm o'r enw pêl-fas Cymreig yn weddol boblogaidd yn ne Cymru, er bod rhai o'r rheolau yn wahanol i'r rheolau yn y gêm ryngwladol.

Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-fas. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.