Dafydd Dafis (actor)

actor a aned yn 1958

Actor a cherddor oedd Dafydd Dafis (1 Medi 19583 Ebrill 2017).[1]

Dafydd Dafis
Ganwyd1 Medi 1958 Edit this on Wikidata
Rhosllannerchrugog Edit this on Wikidata
Bu farw3 Ebrill 2017 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, cerddor Edit this on Wikidata

Magwyd Dafydd Tomos Davies[2] yn Rhosllannerchrugog ac roedd ganddo frawd hyn Ifan a brawd iau William Rhys.[3] Ei dad oedd John Tudor Davies MBE, cyn arweinydd Côr Meibion Rhosllannerchrugog, a fu farw yn 2015. Aeth i Ysgol Morgan Llwyd lle gymerodd ran mewn sawl opera roc. Yn ei arddegau fe'i hysbrydolwyd wrth glywed cerddoriaeth jazz Miles Davis ac fe ddysgodd chwarae'r sacsoffon fel oedolyn. Aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd ac yna gweithiodd gyda Cwmni Theatr Cymru.[4]

Bu'n chwarae gyda nifer o fandiau Cymreig yn cynnwys band Steve Eaves.[5] Perfformiodd sawl gwaith ar Cân i Gymru ac un o'i ganeuon mwyaf adnabyddus oedd "Tŷ Coz", a gyfansoddwyd gan Iwan Llwyd ac Elwyn Williams ar gyfer y gystadleuaeth yn 1993.[4] Cyhoeddwyd dau albwm ar label Sain ac un albwm ar label Fflach yn cynnwys albwm unigol Ac Adre' Mor Bell Ag Erioed yn 1995. Cydweithiodd gyda Pwyll ap Siôn ar yr albwm Ôl y Fflam (Sain, 2006).

Roedd wedi actio yn y cyfresi Paradwys Ffŵl, Rownd a Rownd, Tipyn o Stâd, Porth Penwaig, Pen Talar ac Yr Heliwr ymhlith eraill. Defnyddiodd yr enw Tom Richmond ar gyfer ei waith actio am gyfnod oherwydd bod aelod arall o Equity gyda'r un enw.[6]

Bywyd personol golygu

Priododd yr actores Manon Elis yn 2001.[7]

Fe'i canfuwyd yn farw ym Mhorthaethwy ar 3 Ebrill 2017.

Cyfeiriadau golygu

  1. Yr actor a’r cerddor Dafydd Dafis wedi marw , Golwg360, 4 Ebrill 2017.
  2. Cwmni Snapyn - Ty'r Cwmniau
  3. Tributes paid to popular musician and actor who grew up in Rhos (en) , The Leader, 7 Ebrill 2017.
  4. 4.0 4.1 Teyrngedau i'r cerddor ac actor Dafydd Dafis , BBC Cymru Fyw, 4 Ebrill 2017.
  5. The love that gave me sax appeal and all that jazz; Dafydd Dafis tells Jill Tunstall what sparked his lifelong passion for music. (en) , Daily Post, 19 Awst 2006. Cyrchwyd ar 4 Ebrill 2017.
  6. Tributes for Dafydd Dafis after actor found dead (en) , Daily Post, 4 Ebrill 2017.
  7.  Eco'r Wyddfa. Eco'r Wyddfa (Tachwedd 2001). Adalwyd ar 4 Ebrill 2017.

Dolenni allanol golygu