Jim Henson
Pypedwr Americanaidd oedd James Maury "Jim" Henson (24 Medi, 1936 – 16 Mai, 1990) a greodd sioeau poblogaidd fel y Muppets, a pherfformiodd ar Sesame Street a The Muppet Show. Mae'n bosibl taw Henson yw'r pypedwr mwyaf llwyddiannus erioed.[1] Ceisiodd foderneiddio pypedwaith ag arbenigedd technegol i'w addasu i'r sgrîn, a defnyddio pypedau fel modd o adrodd straeon.
Jim Henson | |
---|---|
Ganwyd | James Maury Henson 24 Medi 1936 Greenville, Mississippi |
Bu farw | 16 Mai 1990 Manhattan |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr teledu, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, actor llais, pypedwr, actor, sgriptiwr, animeiddiwr, cynhyrchydd teledu, cyfarwyddwr, cynhyrchydd |
Adnabyddus am | The Muppets, Labyrinth, The Dark Crystal, Fraggle Rock, Sesame Street, The Jim Henson Hour, Time Piece |
Taldra | 190 centimetr |
Priod | Jane Henson |
Plant | John Henson, Brian Henson, Lisa Henson, Heather Henson, Cheryl Henson |
Gwobr/au | Gwobrau Peabody, Gwobr Emmy 'Primetime', 'Disney Legends', Rhodfa Enwogion Hollywood, Primetime Emmy Award for Outstanding Directing for a Variety Series, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Inkpot |
Y dyddiau cynnar
golyguGanwyd Henson yn Greenville, Mississippi, ar 24 Medi 1936 a chafodd ei fagu yn Leland, Mississippi, gan deulu o Seientiaid Cristnogol. Agronomegwr oedd ei dad oedd yn gweithio i Adran Amaeth yr Unol Daleithiau. Symudodd y teulu i Maryland a phan oedd Jim ym Mhrifysgol Maryland cafodd ei hurio gan sianel deledu leol i gynhyrchu rhaglen fer o'r enw Sam and Friends.[1] Cyd-weithiodd â Jane Nebel, myfyrwraig, a phriododd y ddau ym 1959. Cafodd y ddau, bump o blant cyn iddynt wahanu ym 1986, ond ni wnaethont ysgaru a pharhaodd y berthynas yn glos hyd at ei farwolaeth.[2]
Gyrfa
golyguCreodd Jim byped o froga ym 1956 ac fe'i enwodd yn "Kermit the Frog" ar ôl ffrind o'i blentyndod.[1] Creodd ragor o 'Muppets', sef cyfansoddair o marionette a puppet, o rwber a brethyn, ac oedd yn gallu dangos emosiwn yn well na phypedau pren[1] a rhoes iddynt "fywyd a sensitifrwydd" ar gyfer y teledu.[2] Yn y 1950au a'r 1960au ymddangosodd y Muppets mewn hysbysebion ac ar sioeau adloniant megis The Ed Sullivan Show a The Today Show.[1][3]
Cyflogwyd Henson ym 1969 gan y Children's Television Workshop i berfformio'i bypedau ar y rhaglen blant Sesame Street. Cyflwynodd Henson y cymeriadau Bert ac Ernie, Big Bird, Grover ac eraill i'r sioe.[2] Darlledwyd The Muppet Show o 1976 hyd 1981, a llwyddodd i ennill 235 miliwn o wylwyr ar draws y byd ar adegau.[2] Cydweithiodd â'r pypedwr Frank Oz ar Sesame Street a The Muppet Show. Cynhyrchodd Henson The Muppet Movie (1979), a chyfarwyddodd The Great Muppet Caper (1981), ffilmiau oedd yn serennu'r Muppets. Yn y 1980au creodd y rhaglen blant Fraggle Rock a'r gyfres The Storyteller. Gweithiodd hefyd ar y ffilmiau ffantasi The Dark Crystal (1982) a Labyrinth (1986), ond nid oedd yn llwyddiannus yn y swyddfa docynnau.[4]
Gwobrau
golyguYn ystod ei yrfa, enillodd Henson 18 Gwobr Emmy, saith Gwobr Grammy, a phedair Gwobr Peabody.[1] Roedd yn enwog am ei garedigrwydd, ei ostyngeiddrwydd a'i daldra o 6'3".[2][4] Bu farw Henson ar 16 Mai 1990 o niwmonia.[5] Ar y cychwyn ni ddymunodd Henson fynd i'r ysbyty gan nad oedd eisiau trafferthu eraill, ac yn ôl ei wraig Jane mae'n debyg i gredoau Seientiaeth Gristnogol ei deulu "effeithio ei feddwl",[4] er nad oedd Henson yn Seientiad Cristnogol gweithredol ers 15 mlynedd.[6] Cafwyd gwasanaeth coffa gyda 5000 o alarwyr yn Eglwys Gadeiriol Ioan Ddwyfol, Dinas Efrog Newydd.[4][7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 (Saesneg) Padgett, John B. (17 Chwefror 1999). Jim Henson. Prifysgol Mississippi. Adalwyd ar 15 Medi 2012.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 (Saesneg) Collins, James (8 Mehefin 1998). Jim Henson. TIME. Adalwyd ar 15 Medi 2012.
- ↑ (Saesneg) Blau, Eleanor (17 Mai 1990). Jim Henson, Puppeteer, Dies; The Muppets' Creator Was 53. The New York Times. Adalwyd ar 15 Medi 2012.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 (Saesneg) Schindehette, Susan (18 Mehefin 1990). Legacy of a Gentle Genius. People. Adalwyd ar 15 Medi 2012.
- ↑ (Saesneg) Altman, Lawrence K. (29 Mai 1990). THE DOCTOR'S WORLD; Henson Death Shows Danger of Pneumonia. The New York Times. Adalwyd ar 15 Medi 2012.
- ↑ (Saesneg) Evans, W.R. (1 Gorffennaf 1990). Henson rumor is groundless. Toledo Blade. Adalwyd ar 15 Medi 2012.
- ↑ (Saesneg) Blau, Eleanor (22 Mai 1990). Henson Is Remembered as a Man With Artistry, Humanity and Fun. The New York Times. Adalwyd ar 15 Medi 2012.
Llyfryddiaeth
golygu- Bacon, Matt. No Strings Attached: The Inside Story of Jim Henson’s Creature Shop. New York: MacMillan, 1997.
- Finch, Christopher. Of Muppets and Men: The Making of The Muppet Show. New York: Muppet Press/Alfred A. Knopf, 1981.
- Finch, Christopher, a Charles S. Finch. Jim Henson: The Works: The Art, the Magic, the Imagination. New York: Random House, 1993.
- Henson Associates. The Art of the Muppets: A Retrospective Look at Twenty-five Years of Muppet Magic. New York: Bantam, 1980.
- Henson, Jim. The Muppet Show Book. New York: Abrams, 1978.
- St. Pierre, Stephanie. The Story of Jim Henson: Creator of the Muppets. N.p.: Gareth Stevens, 1997.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Jim Henson ar IMDb
- (Saesneg) Jim Henson Legacy