Jim Webb

chwaraewr rygbi Cymreig

Roedd Alfred James Webb (23 Tachwedd 1882 - 29 Gorffennaf 1955) yn chwaraewr rygbi'r undeb Cymreig [1] a chwaraeodd rygbi clwb i Abertyleri, a rygbi sirol i Sir Fynwy. Enillodd 20 cap dros Gymru, ac roedd yn rhan o dîm teithiol Ynysoedd Prydain i Dde Affrica ym 1910.[2]

Jim Webb
GanwydGorffennaf 1878 Edit this on Wikidata
Coleford Edit this on Wikidata
Bu farw29 Gorffennaf 1955 Edit this on Wikidata
Swydd Gaerloyw Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru Baner Lloegr Lloegr
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r gynghrair, chwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auClwb Rygbi Abertyleri, St Helens RLFC, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig Edit this on Wikidata
SafleClo Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Webb yn West Dean, Swydd Gaerloyw yn blentyn i Charles Webb, glöwr a Sarah Ann (née Frowen) ei wraig. Pan oedd Jim tu 3 mlwydd oed symudodd y teulu i Abertyleri. [3] Mewn cyfnod lle'r oedd rygbi yn gêm amatur roedd yn ennill ei fywoliaeth yn gweithio yn y pwll glo. [4] Ym 1914 priododd Mary Bowdler o Westbury-on-Severn, Swydd Gaerloyw. Bu iddynt ddwy ferch. Bu farw yn Ruspidge, Swydd Gaerloyw yn 72 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys Sant Ioan, Cinderford.[5]

Roedd Webb yn flaenwr cryf a oedd yn rhan o dri thîm a enillodd Y Goron Driphlyg i Gymru. Enillodd 19 cap yn olynol. Ar 22 Rhagfyr 1908,[6] bu Webb yn gapten ar dîm Abertyleri yn erbyn tîm teithiol cyntaf Awstralia. Bu'r gêm yn gyfartal ar dri phwynt yr un,[7] ond mae'r gêm yn dal i gael ei gofio fel un o'r diwrnodau mwyaf yn hanes y clwb. [8]

Mae Webb yn cael ei gofio fel sgrymiwr pwerus, yn gryf yn y llinell a'r sgarmesau. Dyn cymedrol, balch a herfeiddiol o ffyddlon ydoedd. [8]

Gyrfa ryngwladol golygu

Ar ôl perfformiad cryf yn erbyn y daith o amgylch De Affrica gyda thîm Sir Fynwy, cafodd Webb ei gapio dros Gymru yn erbyn yr Alban ym mis Chwefror 1907. Byddai'n chwarae i Gymru 19 gwaith arall. Roedd ei gêm olaf yn erbyn yr Alban ym 1912 lle arweiniodd y pac mewn buddugoliaeth gyffrous. Er gwaetha'r fuddugoliaeth roedd y dewiswyr yn teimlo bod Webb yn rhy hen ac yn rhy araf a chafodd ei ollwng o'r garfan genedlaethol wedi hynny. Bu dadl rhwng Webb a detholwyr Undeb Rygbi Cymru am y modd cafodd ei ollwng a phenderfynodd Webb i droi ei gefn a rygbi'r undeb. Ymunodd â thîm rygbi'r gynghrair, St. Helens,[9] ond dim ond pum gêm chwaraeodd gyda'r i'r tîm. [10]

Gemau rhyngwladol golygu

Cymru [11]

Ynysoedd Prydain

Llyfryddiaeth golygu

  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.
  • Thomas, Wayne (1979). A Century of Welsh Rugby Players. Ansells Ltd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Jim Webb player profile Scrum.com
  2. Pearce, Walter Alfred (1910-06-30). "FOOTBALL ABROAD". Evening Express. Cyrchwyd 2021-05-13.
  3. Yr Archif genedlaethol Cyfrifiad 1891Abertyleri Cyf RG12/4353; Ffolio: 93; Tud: 49
  4. Yr Archif genedlaethol Cyfrifiad 1901Abertyleri Cyf RG13/4935; Ffolio: 130; Tud: 34
  5. Archifau Swydd Gaerloyw; Caerloyw, Swydd Gaerloyw; Cofrestrau Plwyf Eglwys Loegr Swydd Gaerloyw; Rhif Cyfeirnod: P85 / 1
  6. Pearce, Walter Alfred (1907-02-02). "New Welsh Cap". Evening Express. Cyrchwyd 2021-05-13.
  7. Pearce, Walter Alfred (1908-12-22). "DRAWN BATTLE WITH THE WALLABIES". Evening Express. Cyrchwyd 2021-05-13.
  8. 8.0 8.1 Thomas (1979), tud 47.
  9. "Sporting Paragraphs" Nottingham Evening Post 21 Hydref 1912 tud 8
  10. Thomas (1979), tud 48.
  11. Smith (1980), tud 473.