Offeiriad Anglicanaidd yw Joanna Susan "Jo" Penberthy (ganwyd 1960). Ers mis Medi 2015, mae wedi bod yn Rheithor Bywoliaeth Glan Ithon, sy'n cynnwys Llandrindod a'r pentrefi cyfagos, yn Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu.[1][2] Rhwng 2016 a 2023 hi oedd Esgob Tyddewi yn yr Eglwys yng Nghymru.

Joanna Penberthy
Ganwyd1960 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad Anglicanaidd Edit this on Wikidata

Bu'n gweinidogaethu yn Eglwys Loegr a'r Eglwys yng Nghymru a chyn hynny gwasanaethodd fel diacones yn Esgobaeth Durham ac Esgobaeth Llandaf, fel diacon yn Esgobaeth Llandaf, Esgobaeth Llanelwy, ac Esgobaeth Tyddewi, ac fel offeiriad yn Esgobaeth Tyddewi, Esgobaeth Bath a Wells, ac Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu.[2]

Yn Nhachwedd 2016, cyhoeddwyd ei bod wedi ei dewis fel Esgob Tyddewi nesaf; y fenyw gyntaf i fod yn esgob yn yr Eglwys yng Nghymru.[3][4] Fe'i cysegrwyd yn esgob ar 21 Ionawr 2017 a'i gorseddu yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi ar 11 Chwefror 2017.[3] Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd nifer o negeseuon ar ei chyfrif Twitter personol oedd yn feirniadol o gefnogwyr y Blaid Geidwadol, gyda un neges yn dweud na ddylid "fyth, fyth, fyth ymddiried mewn Tori". Fe'i beirniadwyd gan nifer ac ym Mehefin 2021 fe ymddiheurodd.[5] Yn dilyn cyfnodau o salwch, cyhoeddwyd ym mis Mai 2023 y byddai Penberthy yn ymddeol ar ddiwedd Gorffennaf.[6][7] Ar 17 Hydref 2023, etholwyd yr hybarch Dorrien Davies yn Esgob Tyddewi.[8]

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Moving on: Revd Canon Joanna Penberthy. Siocese of Bath and Wells (23 Gorffennaf 2015). Adalwyd ar 2 Tachwedd 2016.
  2. 2.0 2.1 "Joanna Susan Penberthy".
  3. 3.0 3.1  New Bishop of St Davids elected. The Church in Wales. Adalwyd ar 2 November 2016.
  4.  Canon Joanna Penberthy elected Wales' first woman bishop (2 Tachwedd 2016). Adalwyd ar 2 Tachwedd 2016.
  5. "Esgob Tyddewi yn ymddiheuro am negeseuon gwrth-Geidwadol". BBC Cymru Fyw. 2021-06-03. Cyrchwyd 2023-10-17.
  6. "Cau drysau Eglwys Gadeiriol Tyddewi er mwyn ethol ei 130ain esgob". newyddion.s4c.cymru. 2023-10-15. Cyrchwyd 2023-10-17.
  7. "Esgob Tyddewi i ymddeol". Church in Wales. Cyrchwyd 2023-10-17.
  8. "Yr Hybarch Dorrien Davies wedi ei ethol yn Esgob Tyddewi". newyddion.s4c.cymru. 2023-10-17. Cyrchwyd 2023-10-17.