Joe McElderry
Canwr a model[1] Seisnig yw Joseph "Joe" McElderry (ganwyd 16 Mehefin 1991)[2] Enillodd y chweched gyfres o'r sioe ITV, The X Factor yn 2009.[3] Cyrhaeddodd ei sengl gyntaf, "The Climb", rif un yn siartiau'r DU ac yn siartiau Iwerddon.
Joe McElderry | |
---|---|
Ganwyd | 16 Mehefin 1991 South Shields |
Label recordio | Sony Music |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | model, cyfansoddwr, artist recordio |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd |
Math o lais | trawsnewid |
Gwefan | http://joemcelderryofficial.com/ |
Bywyd cynnar a phersonol
golyguGanwyd yn South Shields,[4] Tyne a Wear, Gogledd-ddwyrain Lloegr, unig blentyn[5] i Jim McElderry ac Eileen Joyce[6] yw McElderry. Gwahanodd y pâr pan oedd McElderry yn blentyn.[7] Magwyd McElderry mewn fflat bach ar Tyneside[6] gyda chymorth ei fam-gu Hilda Joyce a'i fodrybedd.
Aeth McElderry i Harton Technology College yn Lisle Road, South Shields, cyn iddo ymuno â South Tyneside College er mwyn astudio ar gyfer Lefelau Uwch, ac wedyn i Newcastle College er mwyn astudio celfyddydau perfformio.[8] Roedd e'n Falchder Perfformiwr Ifanc South Tyneside yn 2008. Mae e'n astudio am BTEC National Diploma mewn Celfyddydau Perfformio yn Newcastle College Performance Academy.[9] Chwaraeodd 'Danny Zuko' yn Grease yn Harton Technology College.[8]
Yng Ngorffennaf 2010, dywedodd McElderry ei fod yn hoyw, a diolchodd i'w deulu a'i gefnogwyr am eu cymorth.[10][11]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Joe McElderry signs up as face of Next Models
- ↑ [1]
- ↑ Joe McElderry wins X Factor crown (en) , Newyddion BBC, 13 Rhagfyr 2009. Cyrchwyd ar 14 Rhagfyr 2009.
- ↑ "Births England and Wales 1984-2006". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-04. Cyrchwyd 2010-08-26.
- ↑ "I'm straight". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-12. Cyrchwyd 2010-08-26.
- ↑ 6.0 6.1 X Factor winner Joe McElderry: small boy, big voice, great future (en) , Daily Telegraph, 14 Rhagfyr 2009.
- ↑ Sara Nathan. X Factor: Robbie Williams to sing on final... despite wild-eyed first attempt (en) , Daily Mail, 9 Rhagfyr 2009. Cyrchwyd ar 15 Rhagfyr 2009.
- ↑ 8.0 8.1 Leah Strug. Support for X Factor Joe is top class (en) , Shields Gazette, 8 Hydref 2009. Cyrchwyd ar 17 Tachwedd 2009.
- ↑ Gwall Templed: Mae paramedr teitl yn orfodol.
- ↑ A message from Joe (en) , joe-music.com, 30 Gorffennaf 2010.
- ↑ Moodie, Clemmie. Joe McElderry: I'm gay - X Factor winner comes out in Daily Mirror interview (en) , Daily Mirror, Trinity Mirror, 31 Gorffennaf 2010.