Joe Wilson
Roedd Anthony Joseph (Joe) Wilson (ganwyd 6 Gorffennaf 1937)[1] yn Aelod Senedd Ewrop dros Ogledd Cymru yn Senedd Ewrop o 1989 i 1999 [2]
Joe Wilson | |
---|---|
Ganwyd | 6 Gorffennaf 1937 Penbedw |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, athro |
Swydd | Aelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Bywyd Cynnar
golyguGanwyd Joe Wilson ym 1937 yn fab i Joseph Samuel Wilson ac Eleanor Annie (née Jones).
Cafodd ei addysg yn Ysgol Birkenhead, Coleg Loughborough a Phrifysgol Cymru lle graddiodd yn BEd gydag anrhydedd.
Gyrfa
golyguRhwng 1955 a 1957 cwblhaodd Gwasanaeth Milwrol Cenedlaethol yn y Royal Army Pay Corps, adran o'r lluoedd a oedd yn gyfrifol am weinyddiaeth ariannol y fyddin. Bu wedyn yn gweithio fel athro yn Guernsey rhwng 1960 a 1966 yna yn Swydd Caint o 1966 i 1969. Cafodd ei benodi yn ddarlithydd mewn ymarfer corff yng Ngholeg Technoleg Wrecsam (NEWI yn diweddarach) ym 1969 lle fu'n gweithio hyd ei ethol i Senedd Ewrop ym 1989.
Gyrfa Gwleidyddol
golyguRoedd yn aelod Llafur o Senedd Ewrop dros etholaeth Gogledd Cymru o 1989 i 1999. Safodd fel ymgeisydd yn etholaeth Cymru gyfan ym 1999 ond heb lwyddo i gael ei ethol.
Bywyd Personol
golyguBu'n briod dwywaith yn gyntaf ym 1959 a June Mary Sockett daeth y briodas i ben drwy ysgariad ym 1987 bu un mab a dwy ferch o'r briodas honno, priododd am yr ail waith ym 1998 a Sue Bentley bu hi farw yn 2012.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Political Memory[dolen farw] adalwyd 05 Rhagfyr 2014
- ↑ Gwefan http://www.europarl.europa.eu/; adalwyd 05 Rhagfyr 2014
Senedd Ewrop | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Beata Brookes |
Aelod Senedd Ewrop dros Gogledd Cymru 1989–1999 |
Olynydd: diddymu'r sedd |