Beata Brookes
Gweithiwr cymdeithasol, ddynes busnes a gwleidydd Ceidwadol Cymreig oedd Beata Ann Brookes CBE[1] (21 Ionawr 1930[2][3] – 18 Awst 2015)[4]. Bu'n gwasanaethu fel Aelod Senedd Ewrop dros etholaeth Gogledd Cymru am gyfnod o 10 mlynedd a roedd wedi gwneud sawl ymgais aflwyddiannus i gael ei hethol i Senedd San Steffan.
Beata Brookes | |
---|---|
Ganwyd | 21 Ionawr 1930 Rhuddlan |
Bu farw | 17 Awst 2015 Wrecsam |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, ffermwr, ymchwilydd, gweithiwr cymdeithasol, ysgrifennydd |
Swydd | Aelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop |
Plaid Wleidyddol | Plaid Annibyniaeth y DU, y Blaid Geidwadol |
Gwobr/au | CBE |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguFe'i ganwyd yn Rhuddlan, Sir Ddinbych yn ferch i ffermwr a ddaeth yn ddatblygwr tai.[5] Cafodd Brookes ei haddysgu yng Coleg Lowther, Abergele[6] ac yna aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru Bangor. Ar ôl ei chyfnod ym Mangor derbyniodd hi ysgoloriaeth gan Adran y Wladwriaeth (US State Department) i astudio gwleidyddiaeth yn yr Unol Daleithiau. Wedi hynny dechreuodd weithio fel ysgrifennydd cwmni a chyfarwyddwr cwmni yng Ngogledd Cymru.
Bywyd gwleidyddol
golyguMagodd Brooks diddordeb yng Ngwleidyddiaeth Ceidwadol yn gynnar yn ei bywyd a chafodd ei hethol i fwrdd reoli Undeb Cenedlaethol Cymdeithasau Ceidwadol ac Unoliaeth ei phlaid; chafodd ei hethol fel aelod Ceidwadol o Gyngor Dosbarth Trefol y Rhyl yn y 1950au.
Safodd yn Etholiad Cyffredinol 1955 fel ymgeisydd Ceidwadol yn etholaeth Widness gan golli o 1,499 bleidlais. Safodd mewn isetholiad yn Warrington ym 1961 a safodd yn etholaeth Manchester Exchange yn Etholiad Cyffredinol 1964 heb lwyddiant.
Cafodd Brooks ei dewis fel ymgeisydd y Ceidwadwyr ar gyfer yr etholiadau uniongyrchol cyntaf i'w cynnal yn y Deyrnas Unedig i Senedd Ewrop ym 1979 gan ennill sedd Gogledd Cymru yn gyffyrddus gyda mwyafrif o dros 15%. Llwyddodd i gadw ei sedd yn etholiad Ewrop 1984 ond gyda mwyafrif llawer llai. Safodd yn yr etholaeth am y drydydd tro ym 1989 gan golli'r sedd i Joe Wilson o'r Blaid Lafur.[7]
Helynt ymgeisyddiaeth Gogledd Orllewin Clwyd
golyguAr gyfer Etholiad San Steffan 1983 bu newid ar ffiniau dau o etholaethau Ceidwadol Clwyd, symudwyd rhannau helaeth o sedd Ddinbych ac etholaeth Sir y Fflint i etholaeth newydd Gogledd Orllewin Clwyd. Fe ymgeisiodd Geraint Morgan AS a Syr Anthony Meyer AS, y ddau aelod a oedd yn cynrychioli'r seddi oedd i'w colli yn yr ad-drefnu, i gael eu henwebu ar gyfer y sedd newydd. Cynigiodd Beata Brooks ei henw ar gyfer yr ymgeisyddiaeth hefyd gan greu peth controfersi a sylw yn y wasg.
Mewn cyfarfod tynnu rhestr fer o ymgeiswyr gan fwrdd reoli Cymdeithas Ceidwadol yr etholaeth a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 1983 fe lwyddodd Brookes i ennill yr ymgeisyddiaeth gan i'r bwrdd rheoli penderfynu mae dim ond ei henw hi oedd i'w gyflwyno i gyfarfod dewis gan holl aelodau'r Blaid Geidwadol yn yr etholaeth. Honnodd Syr Anthony bod y cyfarfod yn ffics tra fo Geraint Morgan yn cwyno bod siarad yn y cyfarfod "megis pledio achos o flaen rheithgor oedd wedi ei lygru".
Plediodd Syr Anthony achos llwyddiannus o flaen Yr Uchel Lys i sicrhau bod ei enw ef yn cael ei gyflwyno i gyfarfod dewis yr aelodaeth cyffredinol yn ogystal ag enw Brookes. Yn y cyfarfod dewis fe lwyddodd Syr Anthony i ennill yr ymgeisyddiaeth o drwch y blewyn.
Bywyd Cyhoeddus Amgen
golyguYm 1973 cafodd Brookes ei phenodi yn aelod o Awdurdod Iechyd Ardal Clwyd, lle bu'n gwasanaethu ar y Pwyllgor Meddygon Teulu, cafodd hefyd ei chyfethol i Bwyllgor Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Clwyd. Roedd yn aelod o'r Gyngor Proffesiynau Atodol i Feddygaeth ac roedd ganddi sawl swydd yn y sector gwirfoddol yng Ngogledd Cymru a oedd yn ymwneud â'r anabl a phobl ag anawsterau dysgu.
Cafodd ei phenodi yn Gadeirydd Cyngor Defnyddwyr Cymru ym 1984 gan gael ei hail phenodi ym 1994 er gwaethaf beirniadaeth gan y Cyngor Defnyddwyr Prydeinig a oedd yn credu y byddai dewis anwleidyddol yn fwy priodol.[8]
Cafodd ei dyrchafu'n CBE ym 1996.
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru'r Rhyl a'r Cyffiniau 1985 ar dir fferm a oedd yn eiddo i Beata Brookes.
Ym mis Mai 2013 cyhoeddodd ei bod wedi ymuno â Phlaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig[9]
Bywyd personol
golyguRoedd yn briod am gyfnod byr i Tony Arnold, ei rhagflaenydd fel cadeirydd y Ceidwadwyr Ifanc Cymreig.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "BROOKES, BEATA ANN (1930 - 2015), gwleidydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2023-04-23.
- ↑ GRO Mynegai i enedigaethau Ion Chwef Mawrth 1930 Cyf 11b Tud 411
- ↑ Mae rhai ffynonellau yn awgrymu 1929 fel blwyddyn ei geni, eraill 1931; ond yr unig enedigaeth ar gyfer Beata Brooks i'w cofrestru gan y Gofrestrydd Cyffredinol yng Nghymru a Lloegr yn y cyfnod yw un yn Ardal Cofrestru Llanelwy yn chwarter cyntaf 1930
- ↑ Daily Telegraph Beata Brookes, MEP - obituary
- ↑ 5.0 5.1 Beata Brookes, MEP - obituary (en) , telegraph.co.uk, 19 Awst 2015. Cyrchwyd ar 14 Mehefin 2016.
- ↑ Brookes, Beata Ann yn Who's Who 2012 (Llundain, A. & C. Black)
- ↑ http://www.election.demon.co.uk/epwelsh.html adalwyd 1 Rhag 1913
- ↑ Chris Blackhurst, "Memo fuels concern at Tory link to public life", The Independent, 2 Mai 1994
- ↑ http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-22399978 adalwyd 2 Rhag 2013
Senedd Ewrop | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Swydd newydd |
Aelod Senedd Ewrop dros Gogledd Cymru 1979–1989 |
Olynydd: Joe Wilson |